Aberteifi - Aberporth
Yn Aberteifi, mae Llwybrau Arfordir Ceredigion a Phenfro yn cwrdd. Dyma'r 'porth i Gymru' gan mai Aberteifi oedd, am ganrifoedd, porthladd mwyaf arfordir y gorllewin, a phrif dref Ceredigion. Wrth groesi'r bont ar draws y Teifi heddiw, mae'r adeiladau naill ochr iddi yn crynhoi hanes y dref: castell cerrig cyntaf tywysog dylanwadol a warysau fu unwaith yn ganolfan masnachu gyda'r byd.
Aberporth - Llangrannog
Gyda chlogwyni uchel a thraethau cysgodol, mae’r rhan hon o Lwybr Arfordir Ceredigion wedi’i dynodi’n Arfordir Treftadaeth. Mae yno draethau da, caerau pentir, a digonedd o gyfleoedd i weld bywyd gwyllt Bae Ceredigion.
Llangrannog - Y Cei Newydd
Mae’r rhan hon o’r arfordir wedi’i dynodi’n Arfordir Treftadaeth, a gellir dadlau mai hon yw rhan fwyaf trawiadol Llwybr Arfordir Ceredigion. Rhwng Llangrannog a'r Cei Newydd, fe welwch gaer hynafol Ynys Lochtyn a baeau bach Cwmtydu a Chwm Soden. Ger y Cei Newydd, mae Craig yr Adar yn lle delfrydol i wylio adar a bywyd gwyllt y môr.
Y Cei Newydd - Aberaeron
Mae’r llwybr rhwng Y Cei Newydd ac Aberaeron yn un o'r rhannau mwyaf poblogaidd o Lwybr Arfordir Ceredigion, ac mae’n cynnwys un o hoff lwybrau’r bardd Dylan Thomas ar hyd y traeth pan fydd y llanw ar drai. O Lanina, mae’r llwybr yn mynd yn ei flaen drwy Gei Bach a Chwm Buwch lle mae afon Drywi’n naddu patrwm diddorol yn y dirwedd cyn troi’n rhaeadr.
Aberaeron - Llanrhystud
Hwn yw cymal hawsaf Llwybr Arfordir Ceredigion. Mae’n ymlwybro ar hyd clogwyni isel yr arfordir rhwng Aberaeron ac Aber-arth. O Aber-arth, mae’r llwybr yn dringo gan ddatgelu golygfeydd gwych tua’r gogledd i Aberystwyth ac Eryri.
Llanrhystud - Aberystwyth
Mae’r llwybr rhwng Llanrhystud ac Aberystwyth yn dipyn o her, ond mae’n werth yr ymdrech i weld y rhan ddramatig hon o Arfordir Treftadaeth Ceredigion gan gynnwys gwarchodfa natur Clogwyni Penderi, lle mae'r coed wedi gwyro gyda nerth gwynt y môr, ac ogof Twll Twrw ger Mynachdy'r Graig.
Aberystwyth - Ynyslas
Rhwng Aberystwyth ac Ynyslas mae'r llwybr mynd lan a lwr rhwng bryniau a phantiau, gyda golygfeydd godidog o benrhyn Llyn ac Eryri. Tra bod Llwybr Arfordir Cymru yn mynd dros Gors Fochno i groesi/r aber, mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn gorffen yn nhwyni Ynyslas ac aber y Dyfi gyferbyn ag Aberdyfi.