Llanrhystud - Aberystwyth

Mae’r llwybr rhwng Llanrhystud ac Aberystwyth yn dipyn o her, ond mae’n werth yr ymdrech i weld y rhan ddramatig hon o Arfordir Treftadaeth Ceredigion gan gynnwys  gwarchodfa natur Clogwyni Penderi, lle mae'r coed wedi gwyro gyda nerth gwynt y môr, ac ogof Twll Twrw ger Mynachdy'r Graig.


O Lanrhystud, mae’r llwybr yn dilyn y clogwyn heibio i fannau ag enwau diddorol fel Tŵr Gwylanod, Twll Twrw, a Mynachdy’r Graig. Gall gwynt y môr fod yn gryf, ac fe welwch ei effaith ar y coed derw ar glogwyn Penderi - mae eu tyfiant wedi crebachu a'u siap wedi plygu yn y gwynt hallt. 

Does dim trefi na phentrefi ar hyd y rhan hon o’r llwybr, felly mae’n feithrinfa bwysig i adar môr o bob math, gan gynnwys mulfrain. Fe allech weld y frân goesgoch hefyd, y cudyll coch, yr hebog tramor, a’r gigfran. Mae’r creigiau islaw yn feithrinfa gysgodol i’r morlo llwyd.

Wrth i chi ymlwybro lawr llethr yr Alltwen, fe gewch eich croesawu gan olygfa o dref a chastell Aberystwyth, gyda mynyddoedd Eryri yn y pellter.

Cyn i chi gyrraedd harbwr Aberystwyth, byddwch yn cerdded ar hyd traeth caregog gwarchodfa natur Tan-y-bwlch dan gysgod bryngaer Pen Dinas sy’n dyddio o’r Oes Haearn. Gerllaw, mae safle castell cyntaf Aberystwyth.