Aberporth - Llangrannog

Gyda chlogwyni uchel a thraethau cysgodol, mae’r rhan hon o Lwybr Arfordir Ceredigion wedi’i dynodi’n Arfordir Treftadaeth. Mae yno draethau da, caerau pentir, a digonedd o gyfleoedd i weld bywyd gwyllt Bae Ceredigion.


Mae bae Aberporth yn swatio’n glyd rhwng dau bentir, a rhennir traeth Aberporth yn ddau ban benrhyn Trwyn Cynwil. Byddwch hefyd yn mynd heibio o gerflun o sgerbwd llong - atgof o'r holl longau gafodd eu hadeiladu ar y traeth islaw.

Mae'r llwybr sy'n mynd ar hyd pen y clogwyni o Aberporth am tua milltir yn gwbl hygyrch, ac yn fan ardderchog arall i wylio dolffiniaid. Islaw mae nifer o hafnau creigiog ac ogofau cudd - llefydd perffaith i forloi gysgodi a gorffwys. 

Yn Nhresaith, mae rhaeadr afonig rhewlifol y Saith yn cwympo'n syth i lawr i greigiau'r traeth dros glogwyn meddal o glai.  Dyma un o nifer o raeadrau a welwch yn llifo dros y clogwyni i'r môr  ar eich taith ar hyd Llwybr yr Arfordir yng Ngheredigion.  

Cewch olygfeydd bendigedig o draeth braf Penbryn, sydd bron i filltir o hyd, ac yn y pellter, benrhyn Ynys Lochtyn. Dyma symbol Llwybr Arfordir Ceredigion, ac fe ddaw hwn yn arwydd cyfarwydd a chysurus i chi fel yr ymlwybrwch ar hyd Bae Ceredigion.  

Mae'r llwybr yn mynd lawr drwy goeodwig ac yn croesi'r nant i gyrraedd LLanborth. Fe allwch fynd ymlaen ychydig i alw heibio eglwys hynafod Penbryn. Er ei bod ar ben bryn yn agos i'r arfordir, welwch chi mohonni o'r môr.

Rhwng Penbryn a Llangrannog mae un o rannau mwyaf heriol Llwybr Arfordir Ceredigion, gyda dwy ddringfa serth. Byddwch yn disgyn i’r Traeth Bach, cyn dringo i fyny at furiau caer Castell-bach sy’n dyddio o’r Oes Haearn, a disgyn eto i bentref Llangrannog.

Wedi cyflawni hyn, sefwch ger cerflun Crannog Sant i fwynhau un o olygfeydd mwyaf adnabyddus yr arfordir, gyda phentref a thraeth Llangrannog islaw, Carreg Bica ar y traeth, a phenrhyn Ynys Lochtyn nawr yn agosau.