Pentref a thraethau Llangrannog

Llangrannog yw un o bentrefi glan môr mwyaf poblogaidd Ceredigion, ac mae'n denu teuluoedd a syrffwyr fel ei gilydd. Mae Carreg Bica, y graig sy’n ymwthio fel dant o’r tywod, yn gwahanu’r ddau draeth.

Gerllaw mae gwersyll a chanolfan gweithgareddau'r Urdd.


Traeth tywodlyd braf sy’n cysgodi dan glogwyni dramatig yw Traeth y Pentref. Ar ben gorllewinol y traeth, mae’r cychod pysgota a’r cyfarpar syrffio wrth y llithrfa yn arwydd o brysurdeb y traeth, gyda'r holl fwrlwm yn digwydd o dan drwyn Sant Crannog a’i gerflun ar y clogwyn uwchben. 

Mae afon Hawen yn llifo’n hamddenol ar hyd y traeth, gan naddu patrymau yn y tywod a rhoi modd i fyw i’r plant sy’n adeiladu cestyll tywod â ffosydd o’u hamgylch i ddal y dŵr. Ar ben dwyreiniol y traeth, fe welwch chi byllau glan môr ac ogofeydd y smyglwyr a fu’n ysbrydoliaeth i nifer o lyfrau T. Llew Jones.

Gallwch chi gerdded yn hwylus o Langrannog i draeth cyfagos Cilborth. Rhwng y ddau draeth, mae Carreg Bica yn ymwthio o’r tywod. Yn ôl y chwedl, dant cawr lleol o’r enw Bica yw'r garreg hon. Yn ôl y sôn, roedd y ddannodd yn blino Bica. Fe wylltiodd ac fe rwygodd y dant drwg o’i ben a’i daflu i ffwrdd. A do, fe laniodd y dant ar ganol traeth Llangrannog.​ Mae’r garreg yn ddiddorol o safbwynt daearegol hefyd gan fod ffosiliau mân yn cuddio rhwng yr haenau.

Pan fydd y llanw ar drai, gallwch chi gerdded ar hyd Traeth y Pentref i Draeth Cilborth. Gallwch chi hefyd gyrraedd y traeth drwy gerdded i lawr rhes o risiau serth o Lwybr Arfordir Ceredigion.

Mae arlunwyr tywod wrth eu bodd yn creu campweithiau ar draeth cysgodol Cilborth. I gael yr olygfa orau o'r gwaith, ewch am dro ar hyd Llwybr yr Arfordir i'w weld o'r clogwyni uwchlaw'r traeth.

Rhwng Llangrannog ac Ynys Lochtyn, bydd nifer o gildraethau bach cudd yn dod i’r golwg pan fydd y llanw ar drai. Ond dim ond o’r môr y gallwch chi gyrraedd y baeau hyn. Fe welwch chi hefyd greigiau ac ogofâu lle bydd morloi’n hamddena.

Mae Ynys Lochtyn yn estyn allan i’r môr tua’r gorwel, ac mae’n bosibl ei gweld o bron bob man ar hyd arfordir Ceredigion. Mae deifwyr profiadol, a dolffiniaid trwyn potel, wrth eu bodd yn y dyfroedd disglair hyn.