Aberteifi - Aberporth

Yn Aberteifi, mae Llwybrau Arfordir Ceredigion a Phenfro yn cwrdd. Dyma'r 'porth i Gymru' gan mai Aberteifi oedd, am ganrifoedd, porthladd mwyaf arfordir y gorllewin, a phrif dref Ceredigion. Wrth groesi'r bont ar draws y Teifi heddiw, mae'r adeiladau naill ochr iddi yn crynhoi hanes y dref: castell cerrig cyntaf tywysog dylanwadol a warysau fu unwaith yn ganolfan masnachu gyda'r byd.


Cerflun o ddyfgi sy'n nodi man cychwyn Llwybr Arfordir Ceredigion. Mae'n sefyll yn effro ger mur sydd gyda geiriau'r prifardd Ceri Wyn Jones am deimladau wrth ymadael a chyrraedd wedi eu cerfio arni. 

Fel mae'r llwybr yn gadael tref Aberteifi ar hyd glan yr afon, mae'n croesi tir amaethyddol a y penrhyn lle mae safle y castell a godwyd  - mewn pren mwy na thebyg - gan y Normaniaid mewn ymdrech i gadw eu gafael a rheoli aber y Teifi, a'r llwybrau i'r môr a'r tir. Mae'r llwybr yna'n dilyn glan yr afon ar hyd palmant cyn belled a chlwb hwylio Patch, neu Pen yr Ergyd.  

Mae twyni meddal Pen yr Ergyd  yn troi'n benrhyn creigiog, gyda golyfgeydd bendigedig draw am benrhyn Cemaes ar arfordir Penfro. Yr ochr arall i'r ffordd mae Clwb Golff Aberteifi, sefydlwyd yn 1895, ac fe agorwyd Gwesty'r Cliff gerllaw yn 1889, fel rhan o gynllun uchelgeisiol i droi'r rhan yma o'r arfodir yn gyrchfan twristaidd ar yr un raddfa a Brighton a Scarborough, ond ni wireddwyd y freuddwyd. 

I'r gorllewin mae Ynys Aberteifi.  Yn ol pob tebyg roedd y Llychlwynwyr yn gyfarwydd a'r ynys gan fod cofnod o 1268 yn cyfeirio ati fel “Hasti Holm”,  neu 'ynys y ceffylau' yn iaith y Llychlynwyr.  Erbyn heddiw mae Ynys Aberteifi yn warchodfa natur dan ofal Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru.    

Mae'r llwybr yn cefnu ar yr arfordir  am gyfnod with droi tua'r Ferwig, cyn troi'n ôl am yr arfordir i gyrraedd Mwnt. Wrth droed Moel y Mwnt mae eglwys wyngalchog Y Grog, ac islaw mae'r traeth bach perffeithiaf, sy'n aml yn ganfas i artist celf tywod.  

O Mwnt, mae'r llwybr yn dilyn trywydd ar hyd y clogwyni, sy'n cuddio ogofau a cherrig gwastad lle mae'n debygol iawn y gwelwch forloi yn gorffwys, yn ogystal a dolffiniaid a llamhidyddion rhwng y tonnau.  Os edrychwch ar y map, mae enwau diddorol ar y cerrig unigol a'r creigiau welwch yn y môr, fel Hatling Bigni, Pencestyll a Pen Peles. Byddai'r morwyr yn adnabod pob un, ac yn eu defnyddio i forio'r arfordir yn ddiogel.

Pencribarch yw'r penrhyn olaf cyn cyrraedd Aberporth. Mae'r llwybr yn gadael yr arfordir unwaith eto ger traethell fach dawel Cwm Gwrddon, i ddilyn ffrwd rewlifol coediog tua Parcllyn er mwyn heibio safle'r Weinyddiaeth Amddiffyn, cyn mynd lawr am draethau a phentref Aberporth.