Traeth Mwnt

Llecyn delfrydol ar arfordir Ceredigion yw’r Mwnt. O ben Foel y Mwnt, uwchlaw’r traeth euraid cysgodol, fe gewch chi olygfeydd gwych dros Fae Ceredigion. I gyrraedd y traeth ei hun, rhaid i chi gerdded i lawr rhes o risiau wrth ymyl y nant.


mwnt

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gwarchod eglwys a thraeth y Mwnt, un o nifer o safleoedd a reolir ganddi yn yr ardal. Dro ar ôl tro, bydd y Mwnt yn ymddangos mewn rhestrau o’r traethau gorau. Fe gafodd ei ddewis yn lle gwych i gael picnic gan y cylchgrawn Country Life, ac fe gafodd ei enwi mewn rhestr o ddeg traeth cudd gorau Ewrop gan y Daily Mail. Fe gafodd hefyd ei ddewis yn un o Lefydd Arbennig gorau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar ôl pleidlais gyhoeddus. Oes angen dweud mwy?

sand art

Pan fydd y llanw ar drai, bydd traeth y Mwnt yn gynfas perffaith i arddangos celf traeth i ddathlu dyddiadau pwysig yn y flwyddyn Geltaidd.​