Aberaeron - Llanrhystud

Hwn yw cymal hawsaf Llwybr Arfordir Ceredigion. Mae’n ymlwybro ar hyd clogwyni isel yr arfordir rhwng Aberaeron ac Aber-arth. O Aber-arth, mae’r llwybr yn dringo gan ddatgelu golygfeydd gwych tua’r gogledd i Aberystwyth ac Eryri.


Byddai mynachod Ystrad Fflur yn defnyddio harbwr naturiol Aber-arth i fewnforio carreg nadd o liw’r mêl o Fryste. Byddai’r mynachod prysur hefyd yn adeiladu coredau i ddal pysgod gan gynnwys eogiaid, corbenwaig a hyrddiaid.  Gallwch weld olion cerrig y coredau o hyd ar y traeth pan fydd y llanw ar drai.  Erbyn hyn, mae Aber-arth yn bentref bach tawel, ond fe fu unwaith yn ganolfan bwysig ar gyfer y diwydiant adeiladu llongau, gyda’r gwaith yn digwydd ar y traeth.

O Aber-arth, mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn dringo dros Graig Ddu gyda’i golygfeydd gwych tua Aberystwyth ac Eryri.  Ar dir gwastad yr arfordir yn Llannon, fe welwch batrwm stribedi caeau canoloesol, ac fe allwch ymlwybro rhwng y caeau, neu'r 'slangs' i ymweld â chanol y pentref.Galwch heibio eglwys Llannon Llansanffraid, ac edrychwch ar gerrig beddi morwyr o bell ac agos yn y fynwent. Mae'r eglwys wedi ei chysegru i ddwy santes - Non, mam Dewi Sant, a Ffraid (neu Bridget) nawddsant benywaidd Iwerddon. 

Ar hyd glan y môr rhwng Llannon a Llanrhystud, fe welwch olion odynau calch ac adeiladau cysylltiedig Craig-las. Mae’r hen safle diwydiannol hwn yn anarferol gan fod yno bedair odyn lle byddai calch a glo mân yn cael eu llosgi i'w defnyddio gan ffermwyr i leddfu asidedd naturiol y pridd. Mae yno blanhigion diddorol sy’n ffynnu mewn calch hefyd.