Traethau aber afon Teifi

Tref harbwr yw Aberteifi ac yma mae'r man croesi cyntaf dros yr afon, cwpl o filltiroedd i mewn o ger lydan yr afon.  Ar y lan ogleddol yr aber, mae traeth Patch, ac ar y lan ddeheuol, ehangder eang Traeth Poppit.

 


Traeth Patch yw'r traeth agosaf (tua 2 filltir ar hyd y ffordd) i dref Aberteifi. Mae'n bosib cyrraedd yno ar droed ar hyd Llwybr Arfordir Ceredigion/ Cymru o'r dref neu o Gwbert gerllaw.  Mae un rhan o'r traeth ar hyd glan yr afon tra bod y rhan arall dros fanc o dwyni tywod gyda golygfa tuag at y môr.

Oherwydd y llanw a gwyntoedd cryfion, nid yw traeth Patch yn addas ar gyfer nofio. Fodd bynnag, gyda Chlwb Cychod Teifi wedi'i leoli yma ar yr aber, mae'n fan poblogaidd ar gyfer gweithgareddau hwylio gan gynnwys rasio, mordeithio a chychod modur.

Rhwng Patch a Gwbert mae tri childraeth bach tawel. Mae traeth Morgan yn cynnwys darn o dywod dan glogwyni siâl. Gellir cyrraedd y traeth ar hyd grisiau wedi'u cerfio yn y creigiau. Mae traeth Cowley yn gilfach greigiog arall y gellir ei chyrraedd trwy risiau. Traeth cerrig mân yw traeth Evelyn a dyma'r gilfach agosaf at bentref Gwbert a Gwesty'r Cliff.

Gellir cyrraedd traeth Poppit  ar hyd llwybr pren drwy'r twyni tywod. Mae'n draeth gwastad a llydan sy'n ymestyn o amgylch y twyni tywod ac i fyny i aber Afon Teifi.

Mae traeth Poppit yn boblogaidd ar gyfer chwaraeon dŵr a pharagleidio. Daw'r llanw i mewn ac allan yn eithaf cyflym ac ni argymhellir nofio y tu hwnt i'r ardal a nodwyd ar gyfer nofio gan faneri Achubwyr Bywyd yr RNLI.

Mae gorsaf Bad Achub yr RNLI ac mae Achubwyr Bywyd yr RNLI yn patrolio'r traeth yn yr haf.