Gwyl Trenau Rheilffordd Cwm Rheidol

Mae Amgueddfa Rheilffordd Cwm Rheidol yn Aberystwyth yn cynnal digwyddiadau arbennig yn ystod y gwyliau - teithiau trên arbennig, arddangosfa rheilffordd fodel a digwyddiad arbennig ar gyfer y Nadolig. 

Bydd rheilffordd fodel enfawr Pete Waterman yn ymweld ag amgueddfa Rheilffordd Cwm Rheidol eto'r haf hwn.


Mae gan Amgueddfa Rheilffordd Cwm Rheidol gasgliad helaeth o drenau a  cherbydau rheilffodd gradd gul hanesyddol. Casglwyd llawer o eitemau gan Gadeirydd diweddar y Rheilffordd, Peter Rampton, ac erbyn hyn mae'r casgliad yn adnabyddus fel “Collection X”. Mae beth sydd yn cael ei arddangos yn y y sied injan yn newid yn rheolaidd.

Mae'r injan nerthol Garratt Rhif 60 “Drakensberg” yn rhan o'r casgliad sydd yn Aberystwyth a gellir ei gweld yn gweithio, yn ei llawn stêm yn achlysurol.  Gellir gweld pob un o dair injan ‘Tanc’ Cwm Rheidol gyda’i gilydd hefyd, pob un mewn lifrai Rheilffordd Brydeinig gwahanol: Rhif 7 'Owain Glyndŵr' mewn gwyrdd, Rhif 8 'Llywelyn' mewn du a Rhif 9 'Prince of Wales' mewn glas.

Ar ddiwrnodau digwyddiadau arbennig, gall ymwelwyr a'r amgueddfa gael cyfle prin i fynd ar daith ar un o'r pedair injan tanc yn ogystal â phrofiad ymarferol gyda gyrrwr ‘Wren’ - un o'r injans lleiaf yng nghasglaid Amgueddfa’r Rheilffordd.

Yn ystod yr haf bydd y sied Injan yn gartref i arddangosfa rheilffordd fodel Pete Waterman sydd yn dangos gorsaf Cyffordd enfawr Watford.  Gallwch gael cyfle i 'yrru'r trenau ar hyd traciau'r model. 

Mae locomotifau Amgueddfa Cwm Rheidol yn cael eu symud allan i wneud lle yn y Sied Injan ar gyfer y rheilffordd fodel  208 troedfedd o hyd, yn ôl pob son y model mwyaf o'i fath yn y byd!