Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Ceredigion 2026
Tregaron fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2026.
Darganfyddwch fwy am y digwyddiad ei hun, y lleoliad a hanes yr eisteddfod yng Ngheredigion o'r cychwyn cyntaf yn Aberteifi i'r wyl fyrlymus pan mae'r genedl yn dod at ei gilydd i ddathlu. Mae Ceredigion gyfan yn edrych ymlaen at eich croesawu.
Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol - am y diweddaraf
Canllaw i ymwelwyr newydd i'r Eisteddfod
Aberteifi ac Ardal Eisteddfod Y Garreg Las - 2026
Castell Aberteifi oedd lleoliad yr Eisteddfod gyntaf erioed, cynhalwyd dros y Nadolig yn 1176 trwy wahoddiad Yr Arglwydd Rhys. Heddiw mae'r dref yn fyw o ddigwyddiadau celfyddydol lliwgar gydol y flwyddyn, gan gynnwys Gwyl Fawr Aberteifi, Eisteddfod flynyddol y dref.
Mae Eisteddfod y Garreg Las yn dod o thair Sir ynghyd: Sir Benfro y Sir nawdd, Sir Gar a Cheredigion. Mae Maes yr Eisteddfod o fewn tafliad carreg o dref Aberteifi a bydd bwsis Gwenno yn cysylltu'r maes a'r dref.
Bydd Aberteifi a phentrefi cyfagos de Ceredigion a gogledd Penfro yn bwrlwm o ddigwyddiadau cyn ac yn ystod yr wyl.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru'n dod i Geredigion yn 2022, wedi i'r wyl gael ei gohirio o 2020.
Gorffennaf 30 - 6 Awst 2022
Am wybodaeth i'ch helpu i gynllunio a gwneud y gorau o'ch ymweliad â Maes yr Eisteddfod yn Nhregaron, y seremoniau, a digwyddiadau a'r gweithgareddau drwy gydol yr wythnos dilynwch yr Eisteddfod.
Mae Ceredigion â thraddodiad cryf o 'steddfota, o'r eisteddfod gyntaf un yng nghastell Aberteifi i gyfres o eisteddfodau blynyddol lleol.
Darganfyddwch eisteddfodau mawr Gwyl Fawr Aberteifi ac Eisteddfodau Pantyfedwen ym Mhontrydfendigaid a Llambed i Eisteddfod Gadeiriol flynyddol Tregaron a llu o eisteddfodau bach y wlad lle cafodd nifer o sêr llwyfan, sgrîn a radio eu meithrin a'u darganfod.
