Rali Ceredigion 2024 - - cymal ym Mhencampwriaeth Rali Ewrop

Rali Ceredigion yw un o ddigwyddiadau mwyaf y byd moduro ym Mhrydain gyda cefnogwyr o bob rhan o’r byd yn ymgynnull yn Aberystwyth i fwynhau penwythnos cyffrous o ralio. Mae Rali Ceredigion yn gymal ym Mhencampwriaeth Rali Ewrop yr FIA sy’n dychwelyd i Gymru am y tro cyntaf ers bron i 30 mlynedd. Bydd gwylwyr yn cael cyfleoedd gwych i archwilio’r ceir, cwrdd â’r gyrwyr a gwylio eu harwyr ar waith dros y penwythnos.


Rali Ceredigion fydd y hiraf a’r mwyaf heriol yn hanes y digwyddiad gyda 14 cymal cystadleuol dros 120 milltir (183 km) o ffyrdd.

Mae dros 100 o griwiau yn cynrychioli 10 gwlad wahanol yn Rali Ceredigion eleni, gan gynnwys gyrwyr o safon fyd-eang fel Hayden Paddon o Seland Newydd, Miko Marczyk o wlad Pwyl, yr Eidalwr Andrea Mabellini a Jon Armstrong o Iwerddon, yn ogystal â Phencampwr Rali Prydain Cymru, Osian Pryce a'r seren ralio llol, Meirion Evans o Lambedr Pont Steffan.  Bydd y pencampwyr yn mynd ben-ben am fuddugoliaeth, gan sicrhau bydd cystadlu chwyrn rhwng y ceffylau blaen. 

Cymalau'r rali mewn lleoliadau bendigedig 

Bydd digwyddiadau Rali Ceredigion yn dechrau fore Gwener gyda 'shakedown' a'r rhagbrofion sy'n gosod y drefn ar gyfer y cystadlu. 

Dechreuad swyddogol y Rali yw'r seremoni agoriadol a Sioe'r Rali  ar Bromenad Aberystwyth  ar brynhawn Gwener gyda cyfle i weld y ceir, cyfarfod â'r gyrrwyr a chasglu llofnodion y ser.  Yna gyda'r nos bydd cymal cyffrous o ddau rediad trwy ganol tref Aberystwyth. 

 

Ar y Sadwrn a'r Sul bydd y timau yn mynd allan i ralio ar hyd lonydd cefn gwlad canolbarath Cymru.  Bydd cymal yn ardal Mydroilyn, gyda hoe fer ar gampws Coleg Llambed I sicrhau eich bod yn cael gweld y gorau o'r cymalau cyffrous, archebwch docyn i gael mynediad i'r parthau gwylio ' fanzone'.

Yn nhref Aberystwyth bydd arddangosfa arbennig o geir ' clasurol' ar y promenad yn y prynhawn. 

Ar y Sul, mae'r Rali' n dychwelyd i'r ffordd am gronfa Nant y Moch, un o glasuron Rali Ceredigion erbyn hyn ac yn herio'r gyrwyr i'r eithaf. Daw'r noson i ben gyda dau rediad o amgylch canol tref Aberystwyth uwaith eto.

Daw'r penwythnos i ben gyda dathliadau podiwm yn ôl yn Aberystwyth brynhawn Sul, a cyfle i fynd ar gefn beic o gwmpas trywydd rali'r dref tra bo'r ffordd ar gau. 

Ardaloedd gwylio  

Mae cyfle i gwrdd â'r gyrwyr, cael eu llofnodion a chymryd hunluniau yn Sioe'r Rali ar Bromenâd Aberystwyth ar brynhawn Gwener cyn y seremonïau swyddogol. Mae hwn yn ddigwyddiad cyffrous ar gyfer y teulu cyfan gydag awyrgylch wefreiddiol. Bydd amrywiaeth o stondinau bwyd yno yn ogystal â sgrin fawr fydd yn dangos y digwyddiad yn fyw.

Mae ardaloedd arbennig wedi eu neilltuo ar gyfer dilynwyr y rali. Mae'r ardaloedd diogel hyn wedi eu dewis yn arbennig am yr olygfa wych maent yn eu cynnig o gymalau mwyaf cyffrous y ralio.

Yn ystod penwythnos y rali mae ardal arddangos Rally Engage yn y maes gwasanaethau rhyngwladol yn Aberystwyth yn gyfle i ddysgu am ddiogelwch ar y ffyrdd, cyfarfod cynhyrchwyr bwyd lleol a chyfleoedd i ddysgu am hyfforddiant a datblygu gyrfa mewn moduro a'r gadwyn gyflenwi.