Iechyd ar eich gwyliau

Mae Ceredigion a'i ardaloedd cyfagos yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn cael eu gwasanaethu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae'r gwasanaethau iechyd yn dal i ddarparu'r gofal sydd ei angen arnoch chi, ond mewn gwahanol ffyrdd i helpu i'ch cadw chi a'ch teulu'n ddiogel. Helpwch eich hun, a'r GIG, a defnyddiwch y gwasanaeth cywir.

Trwy ddewis yn dda bydd pobl yn treulio llai o amser yn aros i gael eu gweld ac yn sicrhau bod yr adran achosion brys ar gael i'r rhai sydd ei hangen ar frys. Helpwch i gadw Ceredigion yn ddiogel.


Dim yn teimlo'n dda ac yn ansicr beth i'w wneud? 

Mae gwefan GIG 111 Cymru yn cynnwys mwy na 65 o wirwyr symptomau a gwybodaeth am wasanaethau lleol, a dylai fod yn fan cychwyn i bawb gysylltu ag ef cyn gwneud galwad ffôn.

Ffoniwch wasanaeth GIG 111 Cymru (drwy ddeialu 111) dim ond os yw eich pryder iechyd yn un brys neu os ydych chi wedi cael eich cyfeirio ato gan y gwiriwr symptomau ar-lein. Bydd hyn yn helpu cleifion i gael y gefnogaeth a'r arweiniad cywir yn y lle cywir ar yr amser cywir.

Adran Achosion Brys (A&E)

Dim ond mynd i adran achosion brys os oes gennych salwch sy'n peryglu bywyd neu anaf difrifol, fel anawsterau anadlu difrifol, poen neu waedu difrifol, poen yn y frest neu strôc a amheuir.

Adrannau anafiadau bach 

Os oes gennych anaf llai difrifol, yna ewch i un o'n hunedau anafiadau bach. Gallant drin oedolion a phlant dros 12 mis oed, gydag anafiadau fel clwyfau neu anafiadau bach, llosgiadau neu sgaldiadau, brathiadau pryfed neu gyrff tramor yn y trwyn neu'r glust.

Gofal brys ond nid argyfwng 

Os oes gennych anghenion gofal brys na allant aros ond nad ydynt yn argyfyngau 999, ffoniwch 111 ar gyfer GIG 111 Cymru i gael cyngor a chymorth iechyd. Mae'r rhif yn rhad ac am ddim, ac mae'r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. 

Cadw'n iach yn llygad yr haul 

Cofiwch  eli haul, het haul, sbectol haul a chysgod er mwyn osgoi llosgi. 

Diogelwch ar y traeth

Mae tro i'r traeth neu allan ar y môr yn hwyl ac yn ffordd wych i gadw'n heini.  Ond cofiwch y gall amgylchiadau newid yn gyflym.  Cymerwych sylw o'r tywydd, amseroedd a natur y llanw ac unrhyw ganllawiau neu gyngor gan yr achubwyr bywyd pan maent ar ddyletswydd.

Bydd amser yn hedfan pan fyddwch chi’n brysur yn darganfod creaduriaid o bob lliw a llun mewn pyllau glan môr, neu pan fyddwch chi’n aros i ddŵr y môr lenwi ffos eich castell tywod. Gall tonnau nerthol y môr fwrw plant – ac oedolion hyd yn oed – ar eu hyd.

Ar rai traethau, fe allech chi gael eich temptio i fynd i archwilio ogofâu a rhaeadrau. Neu fe allech chi fentro o’r prif draeth i ddarganfod baeau bach sy’n hawdd eu cyrraedd pan fydd y llanw ar drai.

Ond, da chi, cadwch lygad ar y llanw – fe allech chi fynd i drafferth os bydd y llanw’n dod i mewn heb i chi sylwi.

Achubwyr bywyd ar y traeth

Mae prif draethau Ceredigion gyda achwbwyr bywyd ar ddyletswydd arnynt yn ystod tymor brig y gwyliau. 

Dewiswch draeth gyda achubwyr bywyd ar ddyletswydd yno

Dysgwch ystyr lliwiau gwahanol y baneri: Nofiwch rhwng y baneri coch-a-melyn; defnyddiwch yr ardal rhwng y baneri du-a-gwyn ar gyfer chwaraeon dŵr (a peidiwch â nofio yn yr ardal yma) ; cadwch draw o'r ardal gyda baneri coch. 

Cymerwch sylw o'r wybodaeth ar arwyddion: Mae arwyddion y traeth yn dangos ardaloedd lle bo peryglon a lle gellir mynd â chŵchn a'r ardaleodd lle cant eu gwahardd. 

Cadwch lygad ar eich plant: Cadwch lygad barcud ar y plant pan maent yn agos at y dŵr.

Byddwch yn ymwybodol o'r llanw: Gwiriwch amseroedd y llanw a byddwch yn ymwybodol o ble gallwch gael eich ynysu gan y llanw'n dod i mewn. 

Peidiwch â nofio ar ben eich hun: Ewch gyda ffrind neu aelod o'r teulu.

Achubwch eich hunan - arnofiwch!

Os byddwch mewn tafferth yn y dŵr – arnofiwch! 

Bod o gwmpas anifeiliad ar y fferm

Mae ymweld â Cheredigion yn gyfle gwych i weld anifeiliaid fferm ac anifeiliaid eraill yn agos yn ein parciau fferm.  Dilynwch y canllawiau hyn.

Mae hylendid dwylo yn hanfodol, yn enwedig i blant, sy'n aml yn cyffwrdd â'u hwyneb neu eu ceg yn ddi-feddwl. Golchwch eich dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr (neu defnyddiwch lanweithydd os caniateir, ond sebon/dŵr sydd orau) ar ôl cyffwrdd ag anifeiliaid neu arwynebau mewn ardaloedd anifeiliaid, a chyn bwyta, yfed, neu gyffwrdd â'ch wyneb.

Osgowch gusanu anifeiliaid neu adael iddynt eich llyfu.

Peidiwch bwydo dim ond hynny a ddarperir gan y fferm i fwydo'r anifeiliaid;

Bwytewch ac yfwch yn y caffi neu ardaloedd picnic dynodedig yn unig, i ffwrdd o barthau cyswllt ag anifeiliaid.

Cadw'n ddiogel o gwmpas gwartheg a defaid yn y wlad

Efallai y byddwch chi'n dod ar draws gwartheg wrth gerdded eich ci yng nghefn gwlad. Dilynwch yr awgrymiadau syml hyn gan Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr i aros yn ddiogel:

Byddwch yn wyliadwrus, yn enwedig wrth fynd i mewn i gae – efallai na fyddwch chi'n gallu gweld y cae cyfan.

Mae buchod yn anifeiliaid chwilfrydig. Os yw gwartheg yn eich dilyn, ceisiwch aros yn dawel a cherdded yn gyflym ac yn dawel o amgylch y fuches ac ystyriwch gerdded o amgylch ymyl y cae.

Peidiwch byth â mynd rhwng buchod a'u lloi. Cerddwch o amgylch y fuches ac ailymunwch â'r llwybr pan fyddwch chi'n ddiogel.

Os oes gennych chi gi, cadwch ef ar dennyn byr o amgylch buchod a defaid, ond ystyriwch ollwng y dennyn os ydych chi'n teimlo dan fygythiad gan wartheg fel y gallwch chi'ch dau gyrraedd diogelwch ar wahân.

Os ydych chi'n teimlo dan fygythiad gan anifeiliaid sy'n amddiffyn eu tiriogaeth neu eu hepil, peidiwch â chynhyrfu na rhedeg. Symudwch i ymyl y cae ac, os yn bosibl, dewch o hyd i ffordd arall o gwmpas.

Os yw'r ffermwr wedi cynnig llwybr arall oherwydd bod da byw yn pori, defnyddiwch ef i helpu'r ffermwr i'ch cadw'n ddiogel.