
Gall cŵn a'u ffrindiau dwygoes fwynhau rhyddid y traeth mewn sawl man ar hyd arfordir Ceredigion. Un o'r llecynnau mwyaf poblogaidd yw Traeth Dolwen yn Aberporth, lle mae'ar afon Howni yn ymlwybro ar draws y traeth llydan tywodlyd. Mae traeth Dolwen ar gael i gŵn trwy gydol y flwyddyn.

Pan mae'r llanw ar drai yn Llangrannog , gallwch fynd draw heibio i Garreg Bica i draeth Cilborth. Mae'n draeth sydd ar gael i gŵn gydol y flwyddyn .

Yn y Cei Newydd, mae croeso i gŵn ar draeth tywodlyd Traeth Gwyn sy'n ymestyn o'r orsaf bad achub hyd at Drwyn Llanina. Gellir cyrraedd y traeth o'r maes carafannau ar hyd llwybr natur drwythere’s access to the beach from the holiday park via a woodland nature walk. A little beyond Llanina is Cei Bach beach, also dog friendly throughout the year.

The shingle beach at Tanybwlch, along from Aberystwyth harbour, is part of the Pendinas nature reserve and can be explored at any time of year.
You can enjoy a walk along the harbour and exploring the pebbles and sand at low tide at Aberaeron near the harbour and at Llanrhystud.
Dogs will love to play between the pools around the preserved tree stumps of the submerged forest along a long stretch of beach between Borth and Ynyslas.

During the summer months, when the beaches get busy, there are restrictions for dogs (excepting guide dogs for the blind) on many of Ceredigion's beaches, However there is always a part of the beach that is available to the whole family, including dogs. A great example is Tresaith beach which has rockpools and a waterfall to discover. It can be reached along a scenic clifftop walk from Aberporth.
There’s plenty more to explore and enjoy from watching fishing or sailing boats at New Quay, Aberaeron and Aberystwyth harbours or along the Teifi estuary.
At Aberystwyth, explore the harbour and marina, the views from castle point, Penglais woodland walk or Pendinas hillfort.
Tro yn y wlad - dilyn afon a thrwy'r coed
Gallwch fwynhau coedlannau, afonydd a mawndiroedd maith Ceredigion yn ddiogel gyda'ch ci. Mae rhannau hawdd o Lwybr yr Arfordir y gallwch eu dilyn ac mae llwybrau ar hyd glannau afon Ystwyth, Rheidol, Aeron a'r Teifi.

Gellir cyrraedd Parc Natur Penglais yn hawdd o ganol Aberystwyth. Felly hefyd goedd glan afon Panteg Aberaeron. Mae'r coedlannau yma, a phlanhigfa ffawydd hynafol Gogerddan, i'r gogledd o Aberystwyth yn llawn clychau'r gog yn y gwanwyn.
Gallwch chi a'ch ci ymestyn eich coesau wrth fynd am dro yng Nghoed y Bont ger Pont-Rhyd-Fendigaid. Ar un tro roedd coedlannau Coed y Bont yn rhan o diroedd maith abaty Ystrad Fflur gerllaw.
Ar lannau'r afon Teifi gallwch fywynhau mynd am dro i weld y rhaeadrau yn Henllan a Chenarth.
Trip tren neu mewn cwch
Teithiwch i ben Craig Glais yn Aberystwyth gyda Rheilffordd y Graig - mae cŵn yn cael teithio am ddim!
Croesawir cŵn gan Reilffordd Cwm Rheidol hefyd. Gallwch fywnhau golygfeydd godidog o'r dyffryn fel mae'r tren yn dringo o Aberystwyth am Bontarfynach a'i raeadrau enwog. Mae llwybrau trwy'r goedwig gallwch eu dilyn rhwng gorsafoedd y Rheilffordd, gan gynnwys taith draw i orsaf bwer Rheidol a'r gronfa ddŵr. Efallai gwelwch eog yn neidio i fyny'r ysgol godwyd yn bwrpasol ar eu cyfer.
Croesewir cŵn ar Reilffordd Dyffryn Teifi yn Henllan.
Gall cŵn ymuno â chi ar un o'r tripiau mewn cwch i wylio bywyd gwyllt y glannau, ond rhaid iddo gael ei godi i mewn i'r cwch. Mae pob cwmni teithiau cwch yn croesawu cŵn, ond gwiriwch yn uniongyrchol gyda'r cwmni o'ch dewis cyn archebu tocyn.
Hyfrytwch yr hydref
Yn yr hydref mae lliwiau dail a madarch ac arogleuon a synau diddorol i ddenu eich ci ar dro twy'r godewig.
Ewch am dro i weld y rhaeadrau a'r golygfeydd braf ar Ystad Yr Hafod rhwng Pont-ar-Fynach a Chwmystwyth. Mae llwybrau yno gafodd eu creu nol yn y 18fed ganrif er mwyn tywys ymwelwyr heibio i henebion wedi eu gosod yn gelfydd i wneud y gorau o'r olygfa yn ogystal a rhaeadrau, pontydd a choed. Mae'r gerddi bellach yn cael eu hadfer gan wirfoddolwyr hefyd.

Cŵn a bywyd gwyllt
Mae nifer o lwybrau i'w harchwilio ym Mwlch Nant yr Arian, rhai ohonynt yn cael e u rhannu gyda beicwyr a marchogion ceffylau. Gallwch roi cynnig ar gyfeiriannu neu gerdded yn hamddenol o gwmpas y llyn yno i weld y barcutiaid yn cael eu bwydo'n ddyddiol am 2 o'r gloch.

Croesawir cŵn ar dennyn yng ngwarchodfeydd yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae rhaid bod cŵn ar dennyn yng Ngwarchodfa Natur Cors Teifi gan fod posib tarfu ar adar fel Glas y Dorlan neu adar rhychdir ac anifeiliaid fel dyfrgwn.
Ar rai adegau o'r flwyddyn rheolir rhannau mawr o warchodfeydd natur gyda chymorth anifeiliaid sy'n pori. Ar y safleoedd hyn, cadwch eich ci yn dynn ar dennyn er mwyn sicrhau na therfir ar yr anifeiliaid. Peidiwch a gadael i'ch ci neidio i mewn i byllau dŵr neu ffosydd, er mwyn diogelwch y ci ei hun ond hefyd i leihau'r perygl o drosglwyddo planhigion estron goresgynnol.

Mae cerrig traeth Ynyslas, sy'n rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi yn llecyn lle mae cwtiaid torchog yn hoffi nythu. Mae'r adar yn nythu ar y tywod rhwng y cerrig mân ac mae'n anodd iawn gweld yr wyau gan eu bod wedi eu cuddweddu mor dda. Felly mae ardal yn cael ei neilltu o'u cwmpas yn ystod y tymor nythu. Cadwch gŵn ar dennyn ger y ffens a pheidiwch a mynd drosti.
Mae ardaloedd o'r traeth o flaen y twyni yn cael eu ffensio Areas at the front of the dunes are also fenced off occasionally. Please avoid these areas and keep dogs on leads when near them. The nature reserve wardens also advise visitors to keep dogs on a lead within the dunes themselves throughout the bird breeding season to prevent disturbing other ground nesting birds such as Skylarks and Meadow Pipits.

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn ardal enfawr o wlyptir sy'n llenwi rhan fawr o ddyffryn yr afon Teifi ger Tregaron. Ymgylchynir y tair cors fawnog gan ardaloedd o gyrs, gwlyptir, ffosydd a phyllau dŵr. Mae'r cynefinoedd yma'n cynnal amrywiaeth eang o fywyd gwyllt prin. Mae llwybr pren cylchol gellir ei ddilyn yn mhob tywydd trwy rannau mwyaf trawiadol y gors. Mae'r llwybr yn eich tywys i guddfan lle gallwch wylio adar sy'n byw yma gydol y flwyddyn a rhai sy'n ymweld yn ystod y gaeaf. Cadwch lygad am was y neidr, mursenod a madfallod yn yr haf, ond byddwch yn ofalus, os gwelwch wiber, peidiwch a gadael i'ch ci agosau ati.

Mae rhannau o Lwybr Ystwyth ar hyd yr Hen Reilffordd ac yn drywydd sy'n cael ei rannu gyda beicwyr a marchogion ceffylau.
Sioeau cŵn a gofal yn ystod y dydd
Yn ystod yr haf mae sioeau'r sir yn cael eu cynnal. Mae cystadlaethau o bob math ar gael, gan gynnwys rhai ar gyfer cŵn. Mae'r cystadlaethau'n amrywio o brofi ufuddrwydd i gystadlaethau gwisg ffansi i gŵn. Beth am roi cynnig arni gyda'ch ci!

Os ydych am ymweld â lleoliad sydd ddim yn gallu derbyn cŵn, beth am drefnu eu bod yn cael treulio'r diwrnod mewn llety cŵn lle mae gofal a diddanwch ar gael iddynt?

At ddiwrnod llawn hwyl a chyffro, gallwch fwynhau hoe mewn gardd dafarn neu wylio'r machlud o'r teras - mae sawl lleoliad yn croesawu cwn. Gofynnwch am rest gan y Ganolfan Groeso.
