Mae cwrs Llysgennad Ceredigion yn gyfres o fodiwlau am ddim, ar-lein a hawdd eu dilyn ar amrywiaeth o bynciau gyda chwisiau ysgafn ar ddiwedd pob modiwl.
Bydd y cwrs yn rhoi cipolwg i chi ar yr hyn sy'n denu ymwelwyr i'r ardal ac yn eich helpu i ddarganfod mwy am drefi a thirweddau nodedig Ceredigion, diwylliant a threftadaeth leol a Chymreig a'n bywyd gwyllt arbennig.
Y modiwlau cyfredol yw:
Bae Aberteifi
Mynyddoedd Cambria yng Ngheredigion
Aberystwyth
Aberteifi
Natur, Bywyd Gwyllt a Thirweddau Gwledig yng Ngheredigion
Ceredigion: Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol
Bwyd a diod yng Ngheredigion
Mae dau fodiwl cyflwyniadol gorfodol - Croeso i Geredigion a chyflwyniad i'r Iaith a'n diwylliant. Cymerwch un modiwl arall o'ch dewis i gyflawni lefel Efydd a 3 arall yr un ar gyfer Arian ac Aur.
Mae modiwlau pellach yn cael eu paratoi i roi dewis ehangach i chi.
Ar gyfer pwy mae cwrs Llysgenhadon Ceredigion?
Mae cwrs Llysgennad Ceredigion ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sy'n caru Ceredigion ac eisiau datblygu eu gwybodaeth er mwyn gallu cynghori ymwelwyr yn hyderus am beth i'w wneud a'i weld yng Ngheredigion.
Trwy gyfuno hyn gyda'ch adnabyddiaeth chi o'ch ardal leol, byddwch yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i brofiad cadarnhaol o Geredigion a'i phobl groesawgar i ymwelwyr o bedwar ban byd.
Mae'r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer staff blaen tŷ mewn gwestai, siopau ac atyniadau ac mae'n gam cychwynnol defnyddiol tuag at ddatblygu gyrfa ym myd twristiaeth.
Tu hwnt i Geredigion, a mwy
Mae cwrs Llysgenhadon Ceredigion yn rhan o deulu o gyrsiau Cymru gyfan - ar ôl i chi gwblhau cwrs Ceredigion, beth am ehangu eich gwybodaeth ymhellach fyth a dilyn cyrsiau Llysgenhadon Cymru eraill?
Mae cyrsiau atodol defnyddiol am Dwristiaeth Cynaliadwy a'r ymgyrch 'Mentra'n Gall' ar gael hefyd.


