Gwyl Crefft Cymru

Bydd Gŵyl Grefft Cymru yn llosgi llwybr lliwgar ar draws tref Aberteifi dros benwythnos cyntaf Medi gan groesawu dros 100 o wneuthurwyr i Gastell Aberteifi.  Bydd tir Castell Aberteifi yn llawn gweithgareddau gan gynnwys arddangosiadau a sgyrsiau gan wneuthurwyr talentog, llwybrau cerfluniau, arddangosfeydd, gweithdai, gweithgareddau plant, bwyd lleol, cerddoriaeth fyw, theatr ac adrodd straeon. 

Dewch i gwrdd a sgwrsio gyda'r gwneuthurwyr am eu gwaith a phrynu crefftau cain mewn gemwaith, crochenwaith, dodrefn, tecstilau, basgedi, gwaith coed, gwydr a phrint a llawer mwy.


Mae 100 o wneuthurwyr proffesiynol o bob cwr o'r DU wedi cael eu dethol i arddangos yng Ngŵyl Grefftau Cymru gan gynnwys y crochenydd lleol Peter Bodenham o Landudoch, yr artist Ruth Packham o'r Borth, sy'n adnabyddus am ei hadar tecstilau hynod a'r gwehydd Llio James, sy'n wreiddiol o Dalybont.

Bydd yr awdur a'r ddarlledwraig Kate Humble yn agor Gŵyl y Crefftau am 10am ddydd Gwener Medi 5ed ac yna yn ymuno â Sarah James mewn sgwrs yn Symposiwm Prifddinas y Crefftau yn Ystafell y Tŵr yng Nghastell Aberteifi.

Mae sgwrs Kate yn rhan o raglen 3 diwrnod o sgyrsiau, dosbarthiadau meistr a thrafodaethau panel ar thema Gwehyddu.

Yn hanesyddol, gwlân oedd y diwydiant pwysicaf a mwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae Symposiwm Prifddinas y Crefftau yn archwilio ei le mewn hanes, ei gysylltiadau  â'r fasnach gaethweision yn y gorffennol a sut mae ymarferwyr cyfoes yn ymateb i wlân a gwehyddu.

Mae nodweddion eraill Gŵyl Grefftau Cymru yn cynnwys llwybr cerfluniau yng ngerddi’r Castell, bwyd a diod lleol blasus a rhaglen o gerddoriaeth fyw eclectig o Gymru a Lloegr fel Mari Mathias, Bwca, Band Arian Aberystwyth, y canwyr-gyfansoddwyr lleol Chwaer, a’r Disclaimers gyda Brychan Llyr a Gareth Davies.

Mae theatr fyw a pherfformiad stryd sy'n adrodd straeon o'r Mabinogi yn y Gymraeg a’r Saesneg yn rhan o Ŵyl Grefftau hefyd, gan gynnwys perfformiad ddydd Sul gan Hijinx, arloeswyr sy'n hyrwyddo cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth.

Digwyddiadau Capital of Craft LIVE

Dros dridiau Gŵyl Grefftau Cymru, bydd The Capital of Craft Live yn cael ei gynnal yn Ystafell Tŵr Castell Aberteifi. Mae Capital of Craft Live yn cynnwys sgyrsiau, dosbarthiadau meistr a thrafodaethau panel gyda gwneuthurwyr blaenllaw, gan archwilio pwysigrwydd gwneud a dyfnder ymarfer crefft yng Nghymru.  Gwnewch yn siŵr eich bod wedi archebu eich sedd ar gyfer Capital of Craft Live i osgoi cael eich siomi.

Mae arddangosiadau byw yn cynnwys Ella Bua-In o Aberteifi. Mae ei gwaith hi wedi'i ysbrydoli gan yr afon Teifi. Daw'r saer coed John Pearce o ardal Llandysul. Ef oedd oedd enillydd y wobr 'busnes newydd gorau' yn yr Wyl yn  2024.

Archebwch weithdy a rhowch gynnig ar grefft

Mae mwynhau dwy awr o ymlacio, gwneud a dysgu sgil newydd yn rhan bwysig o brofiad yr Ŵyl Grefft. ⁠ Mae’r gweithdai’n rhoi cipolwg ar y sgil, yr amynedd a’r dycnwch sydd eu hangen i fod yn wneuthurwr proffesiynol, mae’n helpu i egluro gwerth y gwaith ac mae’n hollol ddifyr!

Gallwch archebu lle i gweithdy creffftio dan arweiniad 'Make it in Wales' sy'n cynnwys argraffu, creu cywiath gyda darnau o  ddefnydd o Felin Tregwynt, marblo a macrame. 

Teuluoedd

Dros y penwythnos yn y castell, bydd Labordy Crefftau Plant yn cynnig cyfle i blant fod yn greadigol a chael llawer o hwyl. Cefnogir  y gweithgareddau gan Ganolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Amgueddfa Wlân Cymru, Ysgol Gelf Caerfyrddin, Cered - Menter Iaith Ceredigion a Walden Arts. Mae'r sesiynau yma yn rhai galw heibio ac am ddim. 

Trywydd crefftau tref Aberteifi

⁠Mae trefnwyr Gŵyl Grefftau Cymru wedi partneru gyda Oriel Myrddin a chwech lleoliad arbennig yn Aberteifi i greu trywydd crefftau cyfoes ar draws y dref fydd yn arddangos gwaith newydd gan chwe gwneuthurwr dawnus o bob rhan o Gymru. Gwahoddwyd pob gwneuthurwr i ymateb i weithiau celf o Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol Cymru.⁠ ⁠

Mae’r gwaith a gomisiynwyd yn cwmpasu amrywiaeth eang o gyfryngau artistig, gan gynnwys serameg, tecstilau  a gwehyddu helyg, i ailddehongli gweithiau celf o’r Casgliadau Cenedlaethol. ⁠Gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru, y nod yw gwneud y casgliadau gwerthfawr hyn yn fwy hygyrch ac atyniadol i bawb. 

Mwy na phenwythnos

Yn ogystal gweithgareddau  ar dir Castell Aberteifi dros benwythnos yr Ŵyl, mae gwyl Grefft Cymru yn cyflwyno digwyddiadau ychwanegol o gwmpas tref Aberteifi fydd yn parhau drwy gydol mis Medi.

Mae Ysgol Gelf Caerfyrddin yn cyflwyno Llwybr Cerfluniau o amgylch y Castell o Fedi 5-12fed. Bydd myfyrwyr a thiwtoriaid yn cyflwyno eu hymatebion i safle Gerddi Castell Aberteifi mewn pren, metel a charreg. Bydd gwaith gan fyfyrwyr cwrs  gwneud dodrefn  Coleg Ceredigion yn cael eu cynrychioli hefyd gyda darn o waith pren sy'n  ymateb i'r gadair enfawr sydd ar safle'r castell.

Cynhelir yr arddangosfa Gwehyddu yn Oriel Canfas o Fedi 5ed hyd at Hydref 5ed.