Bydd y Garratt Rhif 60 nerthol “Drakensberg” mewn stêm a gellir gweld pob un o dtair injan ‘Tanc’ Cwm Rheidol gyda’i gilydd, pob un mewn lifrai Rheilffordd Brydeinig gwahanol: Rhif 7 Owain Glyndŵr mewn gwyrdd, Rhif 8 Llywelyn mewn du a Rhif 9 Prince of Wales, wedi’i ailwampio’n ffres mewn glas.
Yn ystod yr ŵyl, mae ymwelwyr yn cael cyfle prin i fynd ar daith ar un o'r pedair injan tanc yn ogystal â phrofiad ymarferol gyda gyrrwr ‘Wren’ - un o'r injans lleiaf yng nghasglaid Amgueddfa’r Rheilffordd.

Bydd yr ŵyl yn cynnwys amserlen arbennig ddwys, gyda phum trip ar y rheilffordd bob dydd o Aberystwyth dros y penwythnos. Bydd nifer o locomotifau ar waith bob dydd, gan gynnig cyfle i selogion weld amrywiaeth brin o gyfuniadau mewn gwasanaeth.
Mae cyfle bythgofiadwy hefyd i weld rheilffordd fodel Pete Waterman ar waith yn llawn.


