Tablau Llanw

Gwnewch yn siwr eich bod yn gwirio'r llanw bob tro cyn mentro allan ar hyd yr arfordir, boed hynny ar hyd Llwybr yr Arfordir neu ar y môr. 

Os ydych yn anghyfarwydd a siap y traethau a'r pentiroedd, mae'n hawdd cael eich dal gan y llanw pan ewch damaid ymhellach nag oeddech wedi bwriadu neu ddim yn sylwi ar dreigl amser pan ydych yn mwynhau eich hunain!

Mae hawliau cyhoeddi yn golygu mai tablau llanw am dri mis, ar raglen sy'n rowlio ymlaen bob mis, y gellir eu cyhoeddi yma. Os am dablau llanw ar gyfer y flwyddyn gyfan, gallwch archebu copi o lyfryn Tablau Llanw Ceredigion drwy'r post trwy Ganolfannau Croeso Ceredigion neu godi copi o nifer o siopau lleol, unwaith yr ydych yn yr ardal. 

Gwelwch adran Adnoddau Gwybodaeth defnyddiol