Pontrhydygroes, Ysbyty Ystwyth a Chwmystwyth

Ar un adeg, Cwmystwyth oedd un o brif ganolfannau mwyngloddio arian a phlwm Prydain, ac mae’r adeiladau a’r adfeilion yn dangos hyd a lled y diwydiant yno. Mae pentrefi bach y mwynwyr, Pont-rhyd-y-groes ac Ysbyty Ystwyth, hefyd ar lwybr y pererinion i abaty Ystrad Fflur.

 


Byddai twristiaid cynnar y 18fed ganrif yn heidio i ystad yr Hafod i weld y dirwedd Bictiwrésg drawiadol. Byddai’r twristiaid hefyd yn teithio i ben uchaf Cwmystwyth i ganol y diwydiant cloddio arian a phlwm. Mae’r olion sy’n weddill heddiw yn arwydd o’r hanes pwysig hwn. Er bod y mwyngloddiau’n segur erbyn hyn, mae cymunedau Pont-rhyd-y-groes ac Ysbyty Ystwyth yn dal i gadw hanes y mwynwyr yn fyw, ac i ddathlu eu lleoliad ar lwybr y pererinion i Ystrad Fflur.

Pentref a dyfodd o amgylch y mwyngloddiau arian a phlwm yw Pont-rhyd-y-groes, ac mae’r adeiladau’n gofeb i hanes diwydiannol y pentref, gyda thŷ cyfrif, olwyn ddŵr, capel mawr, a thafarn o’r enw’r Miners Arms. Byddai rhai o dwristiaid oes Fictoria’n disgrifio’r pentref fel ‘Swistir bach’ ar lethrau coediog dyffryn Ystwyth.

Mae Pont y Mwynwyr yn croesi’r ceunant dros afon Ystwyth i warchodfa natur Coed Maenarthur. Oddi yno, mae’r llwybrau’n arwain at fryngaer o’r Oes Haearn.

Ymhellach i fyny’r bryn, fe gyrhaeddwch chi Ysbyty Ystwyth. Gyda’i enw’n deillio o’r cysylltiad â Marchogion yr Ysbyty, mae’n ein hatgoffa o’r pererinion canoloesol a fyddai’n aros yn yr eglwys fach ar eu ffordd o Lanbadarn Fawr i abaty Ystrad Fflur.