Pentref a thraethau Borth ac Ynyslas

Bron i dair milltir o dywod euraid. Dŵr bas. Baner Las a Gwobr Glan Môr. Does ryfedd mai’r Borth yw un o draethau mwyaf poblogaidd Ceredigion ymhlith teuluoedd. Mae digonedd o le i redwyr, syrffwyr a barcudfyrddwyr ar draeth cyfagos Ynys-las hefyd.


Borth beach at low tideMae traeth y Borth yn estyn am bron i dair milltir o glogwyni Craig yr Wylfa i dwyni tywod Ynys-las.

Ar ben deheuol y traeth, mae clogwyni Craig yr Wylfa yn rhoi cysgod rhag gwyntoedd y de-orllewin. Mae gorsaf y bad achub a llithrfa’r pentref ar ben deheuol y traeth hefyd.

Ar hyd glan y môr, fe gewch chi oriau o hwyl yn chwilota yn y pyllau am grancod a chreaduriaid bach eraill. Pan fydd y llanw ar drai, cadwch lygad am olion hen goedwig gynhanesyddol sy’n adlais o chwedl Cantre’r Gwaelod, a gwrandewch yn astud i weld a allwch chi glywed clychau Cantre’r Gwaelod yn canu dan y dŵr.

Tu cefn i’r traeth, mae wal uchel yn cysylltu cyfres o grwynau sy’n estyn am bron i ddwy filltir tua’r gogledd i dwyni tywod Ynys-las ac aber llydan afon Dyfi. Pan fydd y llanw’n uchel, dim ond cerrig mân y stormdraeth fydd i’w gweld. Ond pan fydd y llanw ar drai, bydd yr olygfa’n trawsnewid, a bydd traeth euraid mawr a diogel yn ymddangos o’ch blaen.

borth

Ynyslas

Ar ben gogleddol y traeth, bydd y grwynau rheolaidd yn dod i ben wrth i chi gyrraedd twyni tywod Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi yn Ynys-las. Gallwch chi groesi’r twyni ar hyd llwybr o gregyn a phren i gyrraedd canolfan ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru. 

ynyslas

Gallwch chi barcio’ch car ar y tywod cadarn ar dop y traeth cysgodol i’r gogledd o’r twyni. Bydd llawer yn mynd yno i fwynhau’r olygfa fendigedig ar draws yr aber tua Aberdyfi a Chadair Idris. 

windsurfer

Dyw hi ddim yn ddiogel i chi nofio yn Ynys-las gan fod y cerrynt yn gryf iawn yno. Ond mae’n lle poblogaidd iawn i fordhwylio a barcudfyrddio.

ci

Gall cŵn ddefnyddio traeth Ynys-las drwy gydol y flwyddyn, ond bydd rhannau o’r traeth yn cau o bryd i’w gilydd pan fydd adar yn nythu.