Traethau a phentref y Cei Newydd

Mae tri thraeth braf yng Nghei Newydd – Traeth yr Harbwr, Traeth y Dolau, a Thraeth Gwyn. Traeth yr Harbwr, gyda’i dywod euraid gwych, yw’r prif draeth. Mae’n swatio islaw’r pentref, ac mae wal yr harbwr yn rhoi cysgod rhag gwyntoedd y môr. Gyda Baner Las, dŵr glân clir, ardal nofio ddiogel, a thywod mân meddal, mae Traeth yr Harbwr yn ffefryn ymhlith teuluoedd, ac yn lle delfrydol i folaheulo ac i godi cestyll tywod.


Ar Draeth yr Harbwr, mae Canolfan Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion yn cynnal gweithgareddau o bob math, ac mae yno angorfeydd ar gyfer cychod hwylio. Bob mis Awst, bydd regata flynyddol Cei Newydd yn cael ei chynnal ar y traeth ac yn y dŵr. Yno hefyd bydd trigolion lleol yn myn ar ras i fod y cyntaf i’r dŵr ar Ddydd Calan.

traeth

Yr ochr arall i wal yr harbwr, fe welwch chi Draeth y Dolau. Mae yno greigiau, cerrig mân a thywod ychydig mwy bras. 

I gyrraedd y ddau draeth, gallwch chi gerdded ar hyd rampiau sy’n troi’n fwy tywodlyd wrth i chi agosáu at y traeth.

Traeth Gwyn yw traeth arall Cei Newydd. Mae hwn yn llawer mwy gwyllt, a bydd pobl yn mwynhau mynd â’u cŵn yno i redeg ar hyd y traeth bob adeg o’r flwyddyn. Mae Traeth Gwyn yn estyn am bron i filltir o’r nant garegog sy’n gwahanu’r traeth oddi wrth Draeth yr Harbwr tua thrwyn Llanina. Pan fydd y llanw ar drai, bydd yno draeth tywodlyd llydan; ond gwyliwch rhag i chi gael eich dal ar y traeth pan fydd y llanw’n dod i mewn.