Calan Gaeaf a Thân Gwyllt

Mwynglawdd, castell neu blasty ysbrydion thaflu swynion - mae Ceredigion yn llawn straeon arswyd fydd yn sicr o godi gwallt eich pen. Mae Calan Gaeaf a choelcerthi yn nodi newid y tymhorau, gyda traddodiadau hen a newydd yn cael eu dathlu gyda hwyl i oedolion, a gweithgareddau lliwgar a chreadigol i blant eu mwynhau hefyd.


Pwmpenni, swynau ac ysbrydion Calan Gaeaf

Mae nifer o draddodiadau sy'n nodi diwedd yr hydref a dechrau’r gaeaf – rhai ohonynt yn ymestyn nôl i’r cyfnod cyn-Gristnogol a’r Celtaidd, sef gwyl Samhain, sydd yn cael 'atgyfodiad' unwaith eto. Y gred oedd mai dyma’r adeg o’r flwyddyn pan fyddai’r llen anweledig rhwng ein byd ni a byd yr ysbrydion yn teneuo i alluogi'r ysbrydion i gymysgu â bodau dynol.

Yng Nghymru, Tachwedd 1af oedd diwrnod cyntaf y gaeaf a'r noson gynt yn cael ei adnabod fel Calan Gaeaf, Noswyl Gaeaf neu Ysbrydnos - pan ddeuai ysbrydion allan i ymweld.

Mae Calan Gaeaf yn disgyn yn ystod hanner tymor yr ysgol, felly mae llawer o weithgareddau ar gael i ddiddanu'r plant a chyfle gwych i wisgo i fyny a chael tipyn o hwyl.

Yn gyntaf... dewiswch eich pwmpen! Mae yna gaeau pwmpenni lle gallwch chi gasglu eich pwmpen eich hun i'w cherfio gartref neu ymuno â gweithgareddau cerfio pwmpenni, gemau  neu grefftau creadigol eraill ledled Ceredigion.

Gweithgareddau creadigol Calan Gaeaf i blant 

Mae’r hydref yn adeg hyfryd i grwydro o gwmpas Llanerchaeron, ac heb os, gan ystyried bod y stad hanesyddol gyda sylfeini canoloesol, neu hyd yn oed hŷn, bydd ambell ysbryd a stori ddiddorol i’w darganfod. Ymunwch yn sbri'r ysbrydion gyda amrywiaeth o weithgareddau o amgylch y buarth y fferm a’r ardd furiog gan gynnwys gwisgo bwganod brain a dilyn llwybr drysau tylwyth teg arswydus. Bydd diodydd a danteithion yn cael eu paratoi yng nghegin y plasty, a storïwr wrth law i ddatgelu dirgelion a chymeriadau’r gorffennol.

Mae gan Ganolfan Bywyd Gwyllt Cymru ar Gorsydd Teifi ger Cilgerran Lwybr Sialens Natur Calan Gaeaf ac mae gweithgareddau crefftau ar gyfer plant ar gael trwy gydol wythnos hanner tymor.

Mae anifeiliad anghyffredin i'w gweld yn Animalarium Borth - gallwch ddysgu am eu nodweddion rhyfeddol yn ogystal a mwynhau gweithgareddau crefftio. Gwahoddir chi i wisgo lan a dod a gweddillion eich pwmpenni cerfiedig i fwydo'r anifeiliad. 

Ewch am dro i gwrdd â bwganod brain brawychus ar gaeau fferm Coedmore Home Farm, ôl sesiwn o gerfio pwmpenni, celf a chrefft a gemau yn y Caban, neu treuliwch y prynhawn yn gwneud gemwaith Calan Gaeaf a chreu sleim erchyll yn hwb gweithgareddau crefft plant Fun at the Flair yn Aberteifi tra mae wedi ei drawsnewid yn 'Fun at the Scare'!

Dewch wedi gwisgo i fyny i wylio Tref Calan Gaeaf Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth wrth i Jack Skellington, brenin y Dref Calan Gaeaf, ddod â dryswch ac aflonyddwch i sioe ddawns ryngweithiol a hwyliog y Christmas Town yn Little Dance Project i blant 2 oed a hŷn. Wedi'i hysbrydoli gan y stori gan Tim Burton.

Yn ogystal â phrofiadau liw nos arswydus i oedolion a phlant hŷn, mae yna hefyd weithgareddau i ddiddanu plant gan gynnwys cerfio pwmpenni a Llwybr swynau'r gwrachod yn y Silver Mountain Experience ger Ponterwyd. 

 

Teithiau tywys yn y tywyllwch a straeon ysbrydion 

A allwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng y gwir a'r gau  - pa stori arswyd sy'n anghredadwy? Bydd yr arbenigwraig ar fosaigiau Aberystwyth,  Alison Pierse yn yn eich arwain ar daith gerdded i'ch trochi yn hanesion tref Aberystwyth. Mae rhai o'r straeon yn wir a rhai ohonynt yn gellwair coeglyd - ond pa rai?

Oes syndod bod straeon am ysbrydion yng Nghastell Aberteifi, sy'n llawn hanes o'r Canol Oesoedd hyd at yr Ugeinfed Ganrif pan adawyd iddo adfeilio  cyn iddo gael ei achub a'i adfer.  Mae ystlumod anghyffredin na ddylid tarfu arnynt yn clwydo yn y seler,  ac mae stafelloedd lle gwelwyd neu deimlwyd presenoldeb ysbrydion.  Ymunwch â Dark Wales Tours ym mis Rhagfyr i archwilio hanes ryfeddol y castell a chlywed am y profiadau arswydus dros y blynyddoedd mae son amdanynt hyd heddiw. 

Gallwch aros dros nos yn Nanteos, plasdy sydd bellach yn westy moethus, lle dwedir bod ysbryd yn crwydro o gwmpas yn chwilio am gasgliad gemwaith coll, a lle clywir canu telyn yn y goedwig. 

 Ond as gwell gennych gysgu yn eich gwely eich hun ar ol clywed y straeon yma, beth am ymuno a'r storiwr a'r casglwr straeon gwerin, Peter Stephenson yn Llanerchaeron, wrth iddo adrodd straeon arswyd dyffryn Aeron.

Bydd yr arbenigwraig Delyth Badder yn Aberystwyth, yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn siop lyfrau Waterstones yn cyflwyno a thrafod straeon a thraddodiadau Calan Gaeaf Cymru dros y canrifoedd

Anifeiliaid annwyl neu arswydus?

Ar ymweliad a gwarchodfa RSPB Ynys-hir gyda'r teulu gallwch ddilyn cliwiau i ddarganfod anifeiliaid 'arswydus' o bob math sy'n byw yn y warchodfa, a chael atebion i 'pwy sydd ond n mentro allan liw nos'?, pa greadur sydd ag wyth coes? 

Mae nifer o ddigwyddiadau eraill i'r teulu ar y warchodfa dros wyliau Hanner Tymor gan gynnwys gwylio adar, archwilio pyllau, crefftau and thaith dywys arbennig ar gyfer Calan Gaeaf ar Hydref 31ain gyda gemau a siocled poeth o gwmpas y tân. 

Allwch chi daclo sialens natur Calan Gaeaf gwarchodfa Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru a helpu i warchod natur rhag peryglon ynfyd? 

Mae golygfa anhygoel i'w gweld gyda'r cyfnos yn Aberystwyth yn ysgod yr hydref a'r gaeaf. Dyma pryd daw'r drudwy i glwydo dan y Pier ar ol bod yn hedfan yr awyr mewn patrymau chwyrliog.  Allan nhw eich hudo chi gyda'u patrymau cyfareddol?

Arddangosfeydd tân gwyllt 

Mae cynnau coelcerthi yn draddodiad Calan Gaeaf hynafol iawn. ac ers canrifoedd yn gysylltiedig â choffáu Cynllwyn Guto Ffowc.

Trefnir arddangosfeydd tân gwyllt yng Ngheredigion gan sefydliadau elusennol a chymunedol i godi arian at achosion da lleol.

Halloween a Chalan Gaeafa yn y Silver Mountain Experience  

Mae safle mwynglawdd arian plwm o’r 19eg ganrif wedi’i adfer yn atyniad sy'n dehongli hanes mwyngloddio Ceredigion, ac mae eisoes yn atseinio â straeon arwrol a brawychus o’r gorffennol, ond dros gyfnod Calan Gaeaf mae digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal sy'n cynnwys profiadau newydd gyda nodweddion rhyngweithiol.

Mae’r teithiau tywys y Black Chasm yn arwain ymwelwyr drwy chwedlau am hanes, mythau a chwedlau Cymru ac ar gyfer Calan Gaeaf mae hanesion brawychus a straeon ysbryd wedi eu hychwanegu fydd yn siwr o godi gwallt eich pen!

Ar gyfer aelodau ifancach y teulu mae cyfle i gerfio pwmpenni, a gall plant o bob oed ddilyn Llwybr Swyn y Gwrachod trwy chwilio  am y cynhwysion sydd eu hangen ar ein Gwrach preswyl i fragu ei sudd swynol?  Efallai y bydd danteithion i’r rhai sy’n dod o hyd iddyn nhw i gyd…

Terror Mountain

Cynhelir digwyddiad Calan Gaeaf Terror Mountain ar safle'r Silver Mountain Experience ar nosweithiau dethol ym mis Hydref. Yn llawn gwefr a braw, mae’r digwyddiad arswyd rhyngweithiol unigryw yn cynnwys pum atyniad arswyd gwefreiddiol tra bod diddanwyr stryd yn crwydro’r safle. Byddan nhw’n sicr eisiau cwrdd â chi, ond a fyddwch chi eisiau cwrdd â nhw?

Archwilio'r Paranormal

Mae'r Silver Mountain Experience yn cynnal ymchwiliadau paranormal gyda'r nos ar ddyddiadau penodol yn ystod y flwyddyn. Yn ôl y sôn, mae’r mwynglawdd Fictorianaidd yn cael ei aflonyddu gan nifer o ysbrydion.  Yn ystod yr archwiliad paranormal byddwch yn cael mynediad i wahanol rannau o'r mwynglawdd dan oruwchwyliaeth tîm arbenigol i gasglu tystiolaeth gyda'r offer gwyddonol diweddaraf yn ogystal â dulliau mwy traddodiadol.