Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Ceredigion 2022
Tregaron fydd cartref Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2022. Darganfyddwch fwy am y digwyddiad ei hun, y lleoliad a hanes yr eisteddfod yng Ngheredigion o'r cychwyn cyntaf yn Aberteifi i'r wyl fyrlymus pan mae'r genedl yn dod at ei gilydd i ddathlu. Mae Ceredigion gyfan yn edrych ymlaen at eich croesawu.
Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol - am y diweddaraf
Canllaw i ymwelwyr newydd i'r Eisteddfod

Tregaron - cartref Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2022
Tregaron fydd lleoliad Maes yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2022, wedi iddi gael ei gohirio o 2020. Dewch i adnabod y dref farchnad hanesyddol a'i hardal rhwng yr afon Teifi, Ystrad Fflur a Mynyddoedd Cambria.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru'n dod i Geredigion yn 2022, wedi i'r wyl gael ei gohirio o 2020.
Gorffennaf 30 - 6 Awst 2022
Am wybodaeth i'ch helpu i gynllunio a gwneud y gorau o'ch ymweliad â Maes yr Eisteddfod yn Nhregaron, y seremoniau, a digwyddiadau a'r gweithgareddau drwy gydol yr wythnos dilynwch yr Eisteddfod.

Mae Ceredigion â thraddodiad cryf o 'steddfota, o'r eisteddfod gyntaf un yng nghastell Aberteifi i gyfres o eisteddfodau blynyddol lleol.
Darganfyddwch eisteddfodau mawr Gwyl Fawr Aberteifi ac Eisteddfodau Pantyfedwen ym Mhontrydfendigaid a Llambed i Eisteddfod Gadeiriol flynyddol Tregaron a llu o eisteddfodau bach y wlad lle cafodd nifer o sêr llwyfan, sgrîn a radio eu meithrin a'u darganfod.