Mae stori Ceredigion yn werth ei chlywed

A ble well na Cheredigion i ddechrau darganfod hanes Cymru? Dewch i chwilota yn ein bryngaerau, ein mwyngloddiau a'n melinau, ein capeli, ein heglwysi a'n cestyll, neu dewch i gloddio ar safle archeolegol i ddatgelu – yn llythrennol – dreftadaeth ein tir a'i bobl. Dewch i dreulio amser yn ein trefi a'n cymunedau gwledig, a dewch i wybod am ein straeon, ein hanes, a'n cymeriadau.

Beth am i ni ddechrau yn y dechrau, amser maith, maith yn ôl…


Ceredigion y Celtiaid: bryngaerau ac arwyr chwedlonol

Mae'r meini hirion a'r bryngaerau sy'n britho ein tir yn gofeb drawiadol i aneddiadau cynnar Ceredigion. Yn wir, mae dros 170 o fryngaerau a chlostiroedd wedi'u canfod ledled Ceredigion, o gopa Pumlumon i arfordir Bae Ceredigion, ac mae llawer ohonyn nhw'n gysylltiedig â storiau lleol a chwedlau enwocaf Cymru. 

Ceredigion y Celtiaid: bryngaerau ac arwyr chwedlonol


Ceredigion yn oes y Seintiau

Yn ôl yr hanes, cafodd Dewi Sant – nawddsant Cymru – ei fagu ar arfordir Ceredigion, ac fe gyflawnodd ei wyrth enwocaf yn Llanddewi Brefi ym Mynyddoedd Cambria. Mae llawer o safleoedd cysegredig hynafol yn dal i gael eu defnyddio ar hyd a lled y sir heddiw, o ffynhonnau sanctaidd i eglwysi cynnar. 

Ceredigion yn oes y Seintiau


Tywysogion Cymru a chestyll Ceredigion

Roedd Ceredigion unwaith yn deyrnas ynddi ei hun. O'i chwmpas i'r gogledd, i'r dwyrain ac i'r de, roedd tiroedd tywysogion a phenaduriaid pwerus ac er bod y mynyddoedd, yr afonydd a'r môr yn amddiffynfeydd naturiol, fe godwyd nifer o gestyll i amddiffyn ei hanibyniaeth. Fe'u cipiwyd a'u dinistrio dro ar ôl tro, gan adael dim ond adfeilion rhyfedd a rhamantaidd ar ôl.

Tywysogion Cymru a chestyll Ceredigion


Ysbryd mwynwyr Mynyddoedd Cambria

Mwyngloddiau copr, aur, arian a phlwm Ceredigion a Mynyddoedd Cambria yw rhai o'r hynaf yn Ynysoedd Prydain, yn dyddio nôl dros ddwy fil o flynyddoedd. Ers hynny, mae mynachod, brenhinoedd ac anturiaethwyr o bell ac agos wedi dod i gloddio am eu ffortiwn ym mryniau Ceredigion.

Ysbryd mwynwyr Mynyddoedd Cambria


Ceredigion yn nyddiau'r Sioriaid

Wrth i'r diwydiant mwyngloddio, y diwydiant pysgota, masnach ar y môr a datblygiadau amaethyddol ddod â mwy o gyfoeth i Geredigion, fe aeth y bonedd ati i godi tai crand. Dyw plas Llanerchaeron heb newid o gwbl, tra bod Nanteos, Gogerddan a Thrawsgoed wedi'u haddasu, ac eraill wedi ddiflannu'n llwyr.  

Ceredigion yn nyddiau'r Sioriaid


Crefydd, radicaliaeth, a gwrthryfel

Mae gan Geredigion dipyn o enw am fod yn lle radical. Yma, mae ffermwyr, mwynwyr, a chapelwyr hyd yn oed wedi brwydro i fynnu eu hawliau. Dewch i ddarganfod y straeon difyr sy'n gysylltiedig â safleoedd ar hyd a lled Ceredigion, o'n tir comin i'n tollbyrth. 

Crefydd, radicaliaeth, a gwrthryfel


Anturiaethwyr ac arloeswyr oes Fictoria

Yng nghyfnod Fictoria, cynyddodd masnach ar y môr drwy borthladdoedd Ceredigion. O'r un porthladdoedd, aeth nifer o Gardis i chwilio am fywyd gwell dros yr Iwerydd. Roedd hefyd yn gyfnod o syniadau radical, diwydiant newydd, a dyngarwyr yn mynd ati i sefydlu 'prifysgol y bobl'.

Anturiaethwyr ac arloeswyr oes Fictoria