Cerdded ym Mynyddoedd Cambria Ceredigion

Mae llond gwlad o lwybrau cerdded rhagorol ym Mynyddoedd Cambria. Gallwch grwydro’n hamddenol drwy goetiroedd godidog a gweld rhaeadrau rhyfeddol, gan ddilyn ôl troed hen fynachod yr Oesoedd Canol, beirdd a llenorion, a phorthmyn a mwynwyr y 19eg ganrif. A gallwch ddianc rhag prysurdeb y byd a chael hyd i lonyddwch wrth i chi gerdded rhai o lwybrau mwyaf heriol Ceredigion i gopa Pumlumon. Ar ôl cyrraedd y copa, cewch fwynhau golygfeydd trawiadol dros Eryri a Bannau Brycheiniog drwy lygaid gwahanol.


Llwybrau Ysbryd y Mwynwyr

Dewch i grwydro llwybrau Ysbryd y Mwynwyr i ddarganfod ein treftadaeth mwyngloddio, o arfordir Bae Ceredigion i ddyffrynnoedd Mynyddoedd Cambria.

Llwybrau Ysbryd y Mwynwyr


Pum llwybr i gopa Pumlumon

Dewch i gerdded i gopa Pumlumon i ddarganfod llynnoedd a nentydd lle mae afonydd mawr yn tarddu. Cewch hefyd fwynhau golygfeydd di-dor dros gefn gwlad Ceredigion a mynyddoedd Cymru.

 

 

Pum llwybr i gopa Pumlumon