Pum llwybr i gopa Pumlumon

Dewch i gerdded i gopa Pumlumon i ddarganfod llynnoedd a nentydd lle mae afonydd mawr yn tarddu. Cewch hefyd fwynhau golygfeydd di-dor dros gefn gwlad Ceredigion a mynyddoedd Cymru.

 

 


Tybed oeddech chi’n gwybod mai ‘simnai’ yw ystyr ‘llumon’ ac felly mai ‘pum simnai’ yw ystyr yr enw ‘Pumlumon’? Fel mae’n digwydd, mae dewis o bum llwybr hefyd i gyrraedd copa Pumlumon Fawr, yr uchaf o gopaon Mynyddoedd Cambrian.

Llwybr George Borrow:  Mae enw'r llwybr hwn yn dwyn i gof yr awdur a’r teithiwr o’r 19eg ganrif. Yn ei lyfr, Wild Wales, mae’n dweud na fu erioed mor hapus na'r diwrnod y cyrhaeddodd lle mae tair afon yn tarddu ar lethrau’r mynydd.   Mae'r llwybr yn dechrau ger Ponterwyd.

Llwybr y Moch: Mae’r llwybr hwn yn dilyn trywydd Nant y Moch o’r gronfa ddŵr â’r un enw.  Mae’r Mabinogion yn adrodd sut y bu i’r dewin Gwydion ddwyn moch arallfydol ioddi ar Pryderi, g Ddyfed, a dianc gyda nhw am y gogledd, gan aros dros nos ym Mochdre rhywle yng ngogledd Ceredigion. Heddiw mae’r nant yn bwydo cronfa ddŵr Nant y Moch sy’n rhan o gynllun trydan dŵr Rheidol, a gwblhawyd yn 1964. mae'r pwerdy a'r cronfeydd sydd yn ei fwydo yn cael ei redeg gan gwmni Statkraft, ac mae'r sustem o gronfeydd, yn un o'r mwyaf yn Ewrop. 

Llwybr Caradog Jones: Dathlu camp y mynyddwr a anwyd ychydig filltiroedd i ffwrdd ym Mhontrhydfendigaid, mae'r llwybr yma. Caradaog JOnes oedd y Cymro Cymraeg cyntaf i gyrraedd copa Everest.  Y llwybr hwn yw’r llwybr byrraf i’r copa ac mae’n cychwyn o ganolfan gweithgareddau awyr agored Maesnant ar lan cronfa Nant y Moch. Yna mae'n dringo heibio Llyn Llygad Rheidol, tarddiad yr afon Rheidol, ac yna mae angen sgrialu i fyny llethr serth i gyrraedd y bwlch islaw copa Pumlumon Fach i gyrraedd copa uwch Pumlumon Fawr.

Llwybr Sabrina: mae’r llwybr hwn ar ochr ddwyreiniol Pumlumon. Sabrina oedd enw hynafol afon Hafren, afon hiraf Prydain,  sy’n tarddu ar Bumlumon. Mae Llwybr Sabrina ar ochr ddwyreiniol Pumlumon, ac mae'n dwyn yr enw hynafol ar gyfer yr afon Hafren, afon hiraf Prydain, sy'n codi ar Bumlumon. Mae afon hardd Gwy hefyd yn codi ar lethrau dwyreiniol hyn o Bumlumon.

Llwybr Syr Chris Bonington: mae’r llwybr hwn yn dechrau yn Eisteddfa Gurig, ger y ffin a'r cefnddwr rhwng Ceredigion a Phowys.  Yn ôl y son, mae'n debyg bod y mynyddwr o fri wedi treulio noson gyntaf ei fis mêl ar Bumlumon yn 1963! Mae'r llwybr yn dilyn yr afon Tarennig ac mae nifer o hen weithfeydd mwyn i'w gweld ar hyd y trywydd. Ar yr ochr yma i'r mynydd mae safle damwain awyren Americanaidd o'r Ail Ryfel Byd.