Teithiau tywys a llwybrau cylchol Llwybr Arfordir Ceredigion

Mae cerdded mewn cwmni, gyda tywysydd, yn ffordd wych o ddod i adnabod pobl a llefydd diddorol.  I ddathlu pymtheg mlynedd ers agor Llwybr Arfordir Ceredigion mae tîm Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Sir Ceredigion y eich gwahodd i ymuno â nhw ar gyfer o deithiau cerdded tywysiedig sy'n cysylltu â Llwybyr yr Arfordir.


I ddathlu pymtheg mlynedd ers agor Llwybr Arfordir Ceredigion, mae cyfres o chwe taith gerdded dywysiedig yn cael eu harwain gan swyddogion  gwasanaeth Hawliau Tramwy Cyngor Sir Ceredigion yn ystod Mehefin a Gorffennaf eleni.  Mae'r teithiau'n dilyn trywydd cylchol ar hyd llwybrau sy'n cysylltu gyda Llwybr yr Arfordir.  Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn dechrau/ diweddu yn Ynyslas ar lan afon Dyfi ac yn ymlwybro i Aberteifi.  Mae'r gyfres os chwe taith yn archwilio'r tirweddau a'r cynefinoedd hynod sydd yn nodwedd o ardal Llwybr yr Arfordir.  

Taith dywys 1:  Borth / Ynys Las 

Dydd Mercher, Mehefin 21.  Cychwyn am 18:00 (6 o'r gloch yh) o faes parcio Cyfoeth Naturiol Cymru, Ynys Las

Mae taith gerdded dywysiedig gyntaf o gyfres dathlu Llwybr Arfordir Ceredigion yn cael ei chynnal ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn.  Dewiswch rhwng dau opsiwn: 

Opsiwn 1: taith hawdd tua dwy filltir o hyd, saddas i'r teulu cyfan. Amrywaeth o arwynebedd gan gynnwys tywod, glaswellt a thraciau. 

Opsiwn 2: taith hirach, hyd at bum milltir o hyd. Taith hamddenol dros dywod, glaswell a thraciau  i wneud y gorau o'r oriau hir o olau dydd. 

Mae'r teithiau tywys eu hunain yn rhad ac am ddim, ond nodwch bod codi tal am barcio.  

Taith dywys 2: Aberystwyth

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 1 July. Cychwyn am 13.00 (1o'r gloch yp) o'r Bandstand ar y Promenâd 

Golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion.

Opsiwn  1: Taith hawdd o dwy filltir a hanner dros Graig Glais ('Constitution Hill') Clwb Golff Aberystwyth a Pharc Natur Penglais

Opsiwn  2:  Taith gylchol chwech milltir sy'n cynnwys Craig Galis, Clarach, Coed y Cwm, Clwb Golff Aberystwyth a Pharc Natur Penglais. 

 

Taith dywys 3: Aberaeron 

Dydd Mercher, Gorffennaf 5. Dechrau am 18:00 (6 o'r gloch yh) o bont droed Pwllcam, harbwr Aberaeron.

Opsiwn 1 – Taith gylchol hawdd rhwng hanner milltir a milltir lawn yn dilyn yr afon Aeron a dychwelyd ar hyd Llwybr yr Arfordir. Taith hawdd, ond gyda peth arwynebedd anwastad.

Opsiwn 2 – Taith o tua pump i chwe milltir i Lanerchaeron ac Aberarth a dychwelyd i Aberaeron ar hyd Llwybr yr Arfordir. Taith gymhedrol ar lwybrau sydd ag amrywiaeth o arwynebeddau. 

Taith dywys 4: Cei Newydd

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 15. Cychwyn am 13:00 (1o'r gloch yp) ger y toiledau ger yr harbwr.

Taith gylchol o tua saith i wyth milltir i Gwm Soden a Chwmtydu ac yn ol. Taith gymhedrol ond gyda sawl rhiw serth ac amrywiaeth o arwynebedd. Clogwyni uchel uwch y môr mewn mannau.

Taith dywys 5: Llangrannog

Dydd Mercher, Gorffennaf 19.  Cychwyn o Wersyll yr Urdd, Llangrannog am 18:00 (6o'r gloch yh) 

Opsiwn 1 – Taith fer, gylchol neu un linellol a dychwelyd i'r gwersyll gyda bws.

Opsiwn 2 – Taith gylchol pum i chwe milltir gymhedrol  o gwmpas Llangrannog ac Ynys Lochtyn.

 

Taith dywys 6: Aberteifi

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 29.  Cychwyn am 13.00 ( i o'r gloch yp) ofaes parcio Netpool, Aberteifi. (maes parcio talu ac arddangos)

Taith gylchol 13 milltir am Ferwig, Mwnt ac yn ôl. Taith gymhedrol gyda amrywiaeth o arwynebedd llwybr.