Ceredigion countryside

Mae tirwedd Ceredigion yn nodweddiadol o gefn gwlad Cymru: tirwedd sy'n gyfoeth o gynefinoedd bywyd gwyllt, gyda chlytwaith o gaeau amaethyddol a chlwstwr o drefi marchnad bach bywiog sy’n cynnal bywyd gwledig traddodiadol y sir. Yn y trefi hyn, cewch flasu bwyd sy’n dod yn syth o’r fferm i’r fforc mewn caffis, tafarndai a delis lleol. Beth am grwydro dyffrynnoedd afonydd Ceredigion, pob un â’i hanes a’i gymeriad ei hun, ar droed, ar geffyl, ar feic, ar fws neu mewn car? Cewch weld y dirwedd yn newid o dymor i dymor, a syllu ar y sêr yn wybren dywyll y nos.


Gydag ŵyn yn prancio yn y caeau, blodau’n lliwio’r perthi, a’r coed yn gwisgo’u dail, does dim byd tebyg i’r gwanwyn. 

Bydd y wlad yn deffro, a bydd ffermwyr defaid a gwartheg traddodiadol bryniau ac ucheldir Ceredigion yn brysur yn wyna, yn aredig caeau, ac yn gosod perthi. A byddwn ni i gyd yn dotio ar yr ŵyn bach yn y caeau.

I weld ŵyn newydd, a’u bwydo hyd yn oed, gallwch ymweld â ffermydd sy’n croesawu ymwelwyr.

Fel arfer, bydd fferm Llanerchaeron, ystad sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn wyna adeg gwyliau’r Pasg. Gydag ŵyn swci’n cael eu bwydo dair gwaith y dydd yn y Sgubor Polion, mae hwn yn gyfle perffaith i’w gweld a’u bwydo. Os byddwch chi’n lwcus, efallai cewch chi weld oen yn cael ei eni!

Mae gan y Parc Fferm Ffantasi ger Llanrhystud sgubor lle gallwch gwrdd ag anifeiliaid o bob math drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys bwydo ŵyn swci yn y gwanwyn.

Mae’r tymor wyna’n para drwy gydol y gwanwyn. Felly, os byddwch chi’n aros ar fferm, gofynnwch i’r ffermwr a gewch chi fynd gydag e neu hi i weld y defaid a’r ŵyn.

Pan fyddwch chi’n crwydro cefn gwlad Ceredigion yn ystod y tymor wyna, cofiwch ddilyn y Cod Cefn Gwlad bob amser.

Yn y gwanwyn, gallwch wylio ffermwyr lleol yn dangos eu doniau ym mhencampwriaethau aredig Ceredigion. Bob blwyddyn, bydd pencampwriaethau’n cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau yng ngogledd y sir, ac yn Llandygwydd yn Nyffryn Teifi yn ne’r sir. Yn ogystal â defnyddio tractors modern pwerus, bydd ffermwyr hefyd yn arddangos hen dractors a chrefft draddodiadol y gyrwyr gwedd.

Ceredigion yw cadarnle’r merlod a’r cobiau Cymreig. Bob gwanwyn, bydd sioeau meirch ac ebolion yn cael eu cynnal yma. Yn hanesyddol, byddai ffermwyr yn cael hyd i weithwyr ac yn hysbysebu eu meirch yn y sioeau hyn. Heb os, Yn Aberteifi maent y dal i ddathlu Dydd Sadwrn Barlys ar ddydd Sadwrn olaf mis Ebrill. Mae'n nodi diwedd y tymor hau cnydau gan mai barlys yw’r grawn olaf i gael ei hau, ar ôl y gwenith a cheirch.

Dolydd breision  a choedwigoedd cysgodol

Mae llawer o goetiroedd llydanddail Ceredigion yn 500 mlwydd oed a mwy. Ynddyn nhw, fe welwch chi dderw mes di-goes, coed cerddin, a choed cyll, a chyfoeth o fwsogl, rhedyn, a chennau sy’n ffynnu yn yr aer pur dan gysgod y coed. Mae Coed Einion yn Eglwys-fach a choedwigoedd a llethrau Coed Rheidol yng Nghwm Rheidol yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

Yn y gwanwyn, bydd llethrau Ceredigion dan garped o glychau’r gog. I weld yr olygfa liwgar hon, beth am ymweld â choedwig Pant Teg ar gyrion tref Aberaeron neu ystad Llanerchaeron yn Nyffryn Aeron, coedwig gymunedol Long Wood ger Llambed, coedwigoedd Nanteos yn Nyffryn Ystwyth, neu Barc Penglais, y warchodfa natur yng nghanol tref Aberystwyth? Yn wir, os ewch chi am dro i ran fwyaf o goedwigoedd y sir, ry’ch chi’n debygol o weld clychau’r gog yno.

Perthi sy’n gwahanu caeau Ceredigion, gyda choed cyll, y ddraenen wen a’r ddraenen ddu yn tyfu ar gloddiau pridd fel rheol. Fe welwch goed a pherthi ffawydd ar lawer o lonydd y sir. Ac yn ne Ceredigion, fe welwch dresi aur yn tyfu rhwng y caeau.

Rheoli tir ar gyfer bywyd gwyllt

Ewch i grwydro ar hyd dolydd a thrwy goetiroedd ystad Llanerchaeron, yn enwedig ar Ddiwrnod Cenedlaethol y Dolydd. I gynnal blodau, perlysiau a glaswellt o bob math, mae ystad Llanerchaeron yn defnyddio buches o wartheg duon Cymreig i reoli’r dolydd.

Ar yr arfordir, mae gyr o ferlod mynydd Cymreig yn pori’r tir sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mae Gwarchodfa RSPB Ynyshir hefyd yn defnyddio ceffylau i reoli’r gwlyptiroedd, ac mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi yn Ynys-las yn defnyddio defaid i gynnal cydbwysedd y rhostir a’r twyni tywod.

Ond byfflos dŵr sy’n helpu i gynnal cynefinoedd y llifddolydd yng ngwarchodfa Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru ar lannau afon Teifi.​