Afon Teifi

Ar lannau afon Teifi, mae tref Llandysul yn sefyll ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Gâr. Mae'r Teifi yn un o brif afonydd Cymru.  O’i tharddle yn Llynnoedd Teifi ym Mynyddoedd Cambria, mae’n mynd ar ei hynt drwy wlyptiroedd sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt ac ar hyd tir amaethyddol ffrwythlon, gan ruthro drwy geunentydd cul cyn cyrraedd y môr yn nhref borthladd hanesyddol Aberteifi. Uwchlaw glannau’r afon, un o afonydd pysgota enwocaf y wlad, mae’r bryniau’n frith o fryngaerau a charneddau o’r Oes Efydd a’r Oes Haearn.


Mae afon Teifi’n tarddu yn Llynnoedd Teifi, casgliad o bedwar llyn rhewlifol sy’n gorwedd ryw 1,500 troedfedd (455 metr) uwchlaw lefel y môr. Roedd y pedwar llyn, Llyn Teifi, Llyn Hir, Llyn Gorlan a Llyn Egnant, yn enwog yn yr Oesoedd Canol, hyd yn oed, oherwydd ansawdd y llysywod a’r brithyllod. Mae’r llynnoedd hyn mor ddwfn nes bod rhai’n credu eu bod yn ddiwaelod.

A hithau’n 75 milltir (122km) o hyd, afon Teifi yw un o'r afonydd hiraf sy’n llifo’n llwyr o’i llygad i’r môr o fewn Cymru. Ond mae tystiolaeth yn awgrymu ei bod yn estyn o leiaf ddeuddeg milltir ymhellach i’r gogledd ar un adeg, cyn i afon Ystwyth ‘ddwyn’ blaenddyfroedd afon Teifi wrth iddi ymestyn tua’r wlad a chipio cyfran o afon Teifi o Bont-rhyd-y-groes. 

Tirweddau arbennig afon Teifi

Mae’r rhan fwyaf o afon Teifi a’i his-afonydd wedi’u dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae tair cyforgors Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn llenwi 2,000 erw o’r dyffryn rhwng Tregaron a Phontrhydfendigaid ar ben uchaf afon Teifi. Mae Cors Caron yn warchodfa tir gwlyb o bwys rhyngwladol, ac yn un o’r enghreifftiau gorau o gyforgors iseldir ym Mhrydain. Mae hefyd yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn safle RAMSAR.

Cors Goch Glanteifi yn enw arall ar Gors Caron, a hynny oherwydd gwawr goch nodweddiadol y llystyfiant: carped o hesg a migwyn wedi’i fritho â blodau melyn tlws llafn y bladur a gellesgen y gerddi, heb anghofio chwys yr haul sy’n dal pryfed i gael maeth.Cors

Hwn hefyd yw cynefin blodyn sirol Ceredigion, sef andromeda’r gors (Andromeda polifolia), blodyn bach tlws sy’n debyg i’r grug. Gweddillion y planhigion hyn ac eraill sydd wedi creu’r cronfeydd dwfn o fawn sydd wedi datblygu dros ddwy fil o flynyddoedd. Mae’r rhain yn ffurfio cromenni bas sy’n dal i dyfu tu cefn i farian rhewlifol lle mae afon Teifi wedi naddu ei chwrs.

Mae corsydd a rhostiroedd yn llefydd gwych i weld gwyfynod a glöynnod byw prin, fel gwrid y gors a britheg y gors, yn ogystal â gweision y neidir a mursennod. Cadwch lygad am famaliaid swil y gwlyptiroedd hefyd – dyfrgwn, ffwlbartiaid, a llygod y dŵr – a gwrandewch yn astud i glywed cân yr ehedydd a chorhedydd y waun. Yn y gaeaf, alarch y Gogledd yw un o’r rhywogaethau sy’n ymweld â’r gors.

Wrth gwrs, fyddai’r un gors yn gyflawn heb gorff. Ac, yn 1811, fe gafwyd hyd i gorff di-ben dyn o’r Oes Haearn yn y gors. Mae’n bosibl iddo gael ei gladdu fel rhan o gladdedigaeth ddefodol. Fe gafodd y corff ei ailgladdu ym mynwent Ystrad Meurig. Ond mae olion gweithgarwch dynol mwy diweddar i’w gweld yno hefyd, o’r toriadau mawn a ddefnyddiwyd ar gyfer tanwydd yng nghanol yr 20fed ganrif i’r rheilffordd a adeiladwyd ar sachau gwlân sy’n rhan o Lwybr Ystwyth erbyn hyn.

O Lwybr Ystwyth, fe allwch chi weld pwll tegell rhewlifol ar ymyl y gors ym Maesllyn. Fe allwch chi gerdded yn ddiogel i ganol y gors ar hyd y llwybrau pren. Yno, fe allwch chi wylio’r bywyd gwyllt o’r guddfan.

Mae yna nifer o warchodfeydd natur eraill ar hyd afon Teifi hefyd: o’r llethrau dan orchudd coedwigoedd llydanddail i’r gwastadeddau a’r llifddolydd â chyrs o’u hamgylch. Mae beleod a wiwerod coch yn byw ar y llethrau coediog i’r dwyrain o afon Teifi rhwng Tregaron a Llambed.  

Afon Teifi - pysgota heb ei ail

Mae pysgotwyr, gan gynnwys un o gyn-arlywyddion yr Unol Daleithiau, yn teithio o bedwar ban byd i bysgota yn Llynnoedd Teifi ac ar afon Teifi ei hun, afon sy’n lle penigamp i bysgota â phlu am frithyllod, eogiaid a sewiniaid blasus. Mae nifer o glybiau pysgota yn rheoli ardaloedd pysgota ar hyd afon Teifi, o Dregaron i Landysul.

Yng Nghenarth, fe welwch chi eogiaid yn llamu dros y rhaeadrau, a physgotwyr medrus yn cynnal y traddodiad hynafol o bysgota mewn cwrwgl, sef cwch ysgafn syml o wiail a chroen anifail. Ym mis Awst, fe welwch chi rasys cwryglau yng ngŵyliau pentref Cenarth a Chilgerran, ac yng Ngŵyl Afon a Bwyd flynyddol Aberteifi.

Byw a gweithio ar hyd afon Teifi

Mae pobl wedi bod yn byw ac yn gweithio ar hyd afon Teifi ers y cyfnod Neolithig, ac mae nifer o fryngaerau o’r Oes Haearn i’w gweld mewn mannau strategol ar ei hyd. Ym mhen uchaf dyffryn Teifi, mae bryngaer Pen y Bannau yn edrych allan dros adfeilion abaty Ystrad Fflur ger Pontrhydfendigaid, ac mae yna gyfres o fryngaerau rhwng Tregaron a Llandysul hefyd, gan gynnwys nifer o fryngaerau cudd ar grib goediog Allt Goch ger Llambed.

Mae yno gestyll hefyd. Castell Aberteifi oedd y castell cyntaf i gael ei adeiladu o garreg gan un o dywysogion Cymru ac, nid nepell i ffwrdd, un o gestyll y Normaniaid oedd castell Cilgerran. Cafodd y naill gastell a’r llall eu cipio a’u hailgipio droeon gan y Cymry, y Normaniaid ac, yn ddiweddarach, y Saeson.

Melinau'r Teifi

Yn y 19eg a’r 20fed ganrif, melinau dyffryn Teifi oedd canolbwynt diwydiant gwlân Cymru, a Llandysul oedd canolbwynt dyffryn Teifi, gyda miloedd o bobl yn gweithio yn y melinau dŵr yn ystod y Chwyldro Diwydiannol: gwehyddion, nyddwyr, lliwyddion, gwewyr, brethynwyr a theilwriaid yn cynhyrchu brethyn, gwlanenni, carthenni, cwiltiau a siolau. Mae ambell i felin yn dal i weithio heddiw, fel melin Rock Mill yng Nghapel Dewi. Nid nepell i ffwrdd, yn yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nrefach Felindre, fe allwch chi weld hen fframiau gwâu a pheiriannau gwehyddu yn gweithio. Mae’r amgueddfa hefyd yn trefnu llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn.

 

Canolfannau ffydd ar hyd y Teifi

Roedd abaty Sistersaidd Ystrad Fflur yn ganolfan ddysg bwysig yn yr Oesoedd Canol. Heddiw, â’r abaty’n adfail, mae awyrgylch arbennig yn y lle llonydd hwn. Yn Llanbedr Pont Steffan mae Coleg Dewi Sant, sefydlwyd ym 1822 i hyfforddi dynion ar gyfer yr eglwys Anglicanaidd. Yn Aberteifi mae cysegrfan Pabyddion Cymru, ac ar lan ddeheuol yr afon  rhwng Aberteif a'r mor mae adfeilion Abaty Llandudoch, unig abaty Urdd Tiron yng Nghymru. 

Mae llawer o eglwysi a chapeli dyffryn Teifi wedi’u hadeiladu ar dir uwch, fel Eglwys Sant Caron yn Nhregaron, Eglwys Dewi Sant yn Llanddewi Brefi, eglwys wyngalchog Llanwenog yng nghanol ei mynwent gron rhwng Llambed a Llandysul, ac Eglwys Sant Cynllo ger Llangoedmor â’i haddurniadau cywrain o oes Fictoria.

Yn Llandysul, yr eglwys, a godwyd yn y 13eg ganrif, yw adeilad hynaf y dref. Gydâ’i thŵr uchel, mae'n sefyll ar lan yr afon. Yn yr eglwys, mae casgliad o gerrig Cristnogol cynnar, gan gynnwys Carreg Velfor ag arni arysgrif er cof am Velvoria, merch Brohomaglus, mewn Lladin ac Ogam, hen iaith Wyddelig.  Edrychwch i weld llythrennau ogam wedi’u cerfio mewn cerrig ym mynwentydd Llanwenog ac yn Llanllawddog yng Nghenarth, lle mae'r eglwys dafliad carreg o’r ffynnon sanctaidd sydd wedi’i chysegru i’r sant.  

Mae nifer o sefydliadau eraill â chysylltiadau crefyddol yn yr ardal hefyd.  Mae Dyffryn Teifi a'r ardal i'r gogledd tua dyffryn Aeron yn cael ei hadnabod fel ardal 'y Smotyn Du' sef cadarnle'r Undodiaid  yng Nghymru. Ac mewn ffermdy uwchlaw afon Teifi ger Llanbydder, mae ashram aml-ffydd Skanda Vale.

Corsydd Teifi a Chanolfan Bywyd Gwyllt Cymru

Mae afon Teifi a’i his-afonydd wedi’u dynodi'n Ardal Cadwraeth Arbennig, ac mae corsydd Teifi ger aber yr afon yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Yno, fe allwch chi grwydro ar hyd llwybrau pren i weld un o’n gwelyau cyrs mwyaf.

Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru sy’n rheoli’r warchodfa natur a Chanolfan Ymwelwyr Bywyd Gwyllt Cymru. Yno, fe allwch chi ddysgu mwy am y warchodfa a’i phoblogaeth o greaduriaid diddorol: gleision y dorlan, crehyrod glas, dyfrgwn, a gyr o fyfflos dŵr sy’n pori llystyfiant o’r pyllau er mwyn i amffibiaid a phryfed ffynnu.

Aber afon Teifi – o Landudoch i’r môr

Yng Ngwbert, ger aber afon Teifi, mae Twyni Tywod Tywyn yn gorwedd ar wely hynafol o waddod rhewlifol a gafodd ei chwythu o Fôr Iwerddon gan wyntoedd cryfion. Mae’r gwynt a’r llanw yn dal i newid ffurf y tywod ar lan ogleddol afon Teifi yng Ngwbert ac ar ochr ddeheuol yr aber ar draeth Poppit.

Barod am antur ar afon Teifi?

Mae dyfroedd afon Teifi yn lle delfrydol i gaiacio a chanŵio: o gyrsiau pencampwriaeth dŵr gwyn byrlymus Llandysul i’r dyfroedd digynnwrf dan gysgod muriau castell Cilgerran.

Yn ôl ar dir sych, mae digon o lonydd gwledig tawel lle gallwch chi feicio neu redeg. Beth am feicio ar hyd Llwybr Ystwyth sy’n dilyn trywydd yr hen reilffordd rhwng Aberystwyth a Thregaron, gan basio heibio i Gors Caron? Fe allwch chi fynd i redeg, cerdded a beicio gyda chlybiau lleol, neu gymryd rhan mewn cystadlaethau fel ras Cors Caron neu rasys triathlon.

Os y’ch chi’n chwilio am rywbeth mwy hamddenol i’w wneud, beth am ddysgu crefft wledig draddodiadol, neu roi cynnig ar grochenwaith, gemwaith, gwydr lliw neu beintio? Gallwch chi hefyd ymlacio ar wyliau ioga neu wyliau cerdded gydag un o fusnesau twristiaeth dyffryn Teifi.