Dilyn llwybrau afonydd Ceredigion

Dau Aber - y Dyfi yn y gogledd a'r Teifi yn y de – yw ffiniau naturiol Ceredigion, tra bod 'aber' yn rhan bwysig o gymeriad priaf drefi harbwr Ceredigion yn Aberteifi, Aberaeron ac Aberystwyth. Mae'r Teifi a'r Dyfi yn llochesau naturiol i fywyd gwyllt, ac mae llethrau coediog afonydd llai Ceredigion's  yn rhuthro  am y mor dros raeadrau a thrwu geunentydd o Fynyddoedd Cambria.  


Ffurfwyd tirwedd Ceredigion dros filiynau o flynyddoedd gan symudiadau anferthol rhewlifoedd ac egni pwerus dŵr yn cerfio ceunentydd dwfn yn yr ucheldiroedd cyn nadreddu'n hamddenol ar draws dolydd bras am y môr. Ond gellir gweld ôl dyn hefyd fel mae wedi troi nerth y dŵr i'w felinau ac i gronfeydd ar gyfer diwydiant a hamdden. 

 

Biosffer Dyfi

Mae afon Dyfi’n ffurfio ffin ogleddol naturiol Ceredigion. I lawer, hon yw’r ffin rhwng de a gogledd Cymru hefyd. Mae’r afon yn llifo drwy’r aber llydan i’r môr yng nghysgod mynyddoedd Eryri ar y naill law a Mynyddoedd Cambria ar y llall. Ar lannau deheuol yr afon, fe welwch chi Gors Fochno – cors iseldir fwyaf Ynysoedd Prydain – gyda’i bywyd gwyllt cyfoethog, a’i thrysorfa o chwedlau.

Biosffer Dyfi


Rheidol

Mae afon Rheidol yn tarddu yn Llyn Llygad Rheidol ar lethrau Pumlumon, copa uchaf Mynyddoedd Cambria. Mae’r afon yn disgyn yn serth ac yn gyflym i’r môr drwy dirwedd goediog ddramatig. 

 

Rheidol


Dilyn yr afon Ystwyth

Yn ôl yr Arolwg Ordnans, asiantaeth fapio swyddogol y Deyrnas Unedig, mae canolbwynt daearyddol Cymru ar lethr uwchlaw afon Ystwyth yng Nghwmystwyth.

 

Dilyn yr afon Ystwyth


Dyffryn Aeron, yr Arth, Wyre a'r Mynydd Bach

Mae dyffryn Aeron yn estyn o dref liwgar Aberaeron ar arfordir Ceredigion i lygad yr afon yn Llyn Eiddwen ger copa’r Mynydd Bach. Mae afon Arth hefyd yn tarddu ar y llethrau hyn, gan fyrlymu am saith milltir tua’r môr.

Dyffryn Aeron, yr Arth, Wyre a'r Mynydd Bach


Afon Teifi

Ar lannau afon Teifi, mae tref Llandysul yn sefyll ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir Gâr. Mae'r Teifi yn un o brif afonydd Cymru.  O’i tharddle yn Llynnoedd Teifi ym Mynyddoedd Cambria, mae’n mynd ar ei hynt drwy wlyptiroedd sy’n fwrlwm o fywyd gwyllt ac ar hyd tir amaethyddol ffrwythlon, gan ruthro drwy geunentydd cul cyn cyrraedd y môr yn nhref borthladd hanesyddol Aberteifi. Uwchlaw glannau’r afon, un o afonydd pysgota enwocaf y wlad, mae’r bryniau’n frith o fryngaerau a charneddau o’r Oes Efydd a’r Oes Haearn.

Afon Teifi