Biosffer Dyfi

Mae afon Dyfi’n ffurfio ffin ogleddol naturiol Ceredigion. I lawer, hon yw’r ffin rhwng de a gogledd Cymru hefyd. Mae’r afon yn llifo drwy’r aber llydan i’r môr yng nghysgod mynyddoedd Eryri ar y naill law a Mynyddoedd Cambria ar y llall. Ar lannau deheuol yr afon, fe welwch chi Gors Fochno – cors iseldir fwyaf Ynysoedd Prydain – gyda’i bywyd gwyllt cyfoethog, a’i thrysorfa o chwedlau.


Gwarchodfa natur gwlyptir Cors Fochno yw un o brif nodweddion naturiol yr ardal, ochr yn ochr â thwyni tywod Ynys-las, ac olion hen goedwig gynhanesyddol sydd wedi boddi dan y don ar draeth y Borth. Mae’r gair ‘ynys’ yn rhan o enw pob un o’r bryniau isel sy’n codi o’r gwastatir, gan awgrymu bod y bryniau hyn wedi sefyll uwchlaw gwlyptiroedd ‘slawer dydd.

Ynys-las: twyni tywod a morfa heli

Yn Ynys-las, fe gewch chi hyd i dwyni tywod mwyaf Ceredigion, ond mae’n ddigon hawdd mynd am dro drwy’r twyni ar rwydwaith o lwybrau pren. Mae cerrynt y dŵr ac awelon y môr yn newid siâp y twyni o hyd. Yn y tywod, fe welwch chi lawer o blanhigion yn tyfu: moresg a thaglys arfor, yn ogystal â thegeirianau a chaldrist y gors. Cadwch lygad am degeirian bera a thegeirian y wenynen yn y rhannau sych. Mae’r twyni hefyd yn gartref i lysiau’r afu, ffwng, pryfed ac ymlusgiaid. Bydd yr ehedydd, clochdar y cerrig, a’r llinos yn nythu yn y twyni, tra bydd y cwtiad torchog yn nythu ar rannau caregog y traeth. I gael golygfa dda o’r safle cyfan, gallwch chi ddringo’r cerflun pren mawr o falwoden ger Canolfan Ymwelwyr Ynys-las.

Mae morfa heli fwyaf Ceredigion yn estyn ar hyd aber afon Dyfi yn Ynys-las ac Ynys-hir.  Mae’r enwau hyn yn awgrymu bod y tir yn aml dan ddŵr – dŵr heli a dŵr croyw. Mae’r morfeydd heli’n fôr o glustogau Mair yn y gwanwyn, ac fe welwch chi sêr y morfa a llyrlys yno yn yr haf.

Cors Fochno: Gwarchodfa Natur  Genedlaethol anghffredin

Cors Fochno yw un o’r cyforgorsydd mawnog mwyaf a gorau sydd ar ôl ym Mhrydain. Dros 5,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd y tir wedi’i orchuddio â choedwig, ond wrth i lefel y môr godi, fe drodd y goedwig yn gorstir cyrs ac yna’n fawnog. Heddiw, mae carped o figwyn coch ac aur yn gorchuddio’r gors, ac mae’n gynefin i lawer o rywogaethau prin ac anghyffredin, gan gynnwys planhigion fel gwlithlys sy’n bwyta pryfed, gwyfynod fel gwrid y gors, a mursennod bach coch.

Ond o dan y carped hwn, mae mawn dyfriog Cors Fochno yn lle peryglus. Yn ôl yr hen goel, hwn oedd cartref Hen Wrach Cors Fochno. Pe bai’r Hen Wrach hagr saith troedfedd o daldra yn dod yn nyfnder y nos at erchwyn y gwely, byddech chi'n deffro'n gryndod i gyd. Cynnau tân mawr oedd yr unig ffordd o gael gwared arni.

Gallwch chi fynd ar daith dywys o amgylch Cors Fochno o Ganolfan Ymwelwyr Gwarchodfa Natur Ynys-las, neu gallwch chi ddilyn y llwybr pren cylchol ar hyd ymyl y gors. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio heibio i ymyl deheuol a dwyreiniol y gors rhwng y Borth a Thre Taliesin.

Olion Cantre'r Gwaelod? 

Pan fydd y llanw ar drai ac erwau o dywod i’w gweld rhwng y Borth ac Ynys-las, os edrychwch chi’n ofalus, fe welwch chi olion hen goedwig gynhanesyddol sydd wedi boddi dan y dŵr. Mae’r boncyffion hyn, a’r cerrig sy’n estyn fel rhagfuriau i’r môr ar hyd y sarnau cyfagos, yn adlais o chwedl Cantre’r Gwaelod.

Aber afon Dyfi  ac Ynys-hir: noddfa i adar

Ddiwedd yr haf, bydd gwarchodfa’r RSPB yn Ynys-hir yn croesawu haid o adar drycin Manaw sy’n cael seibiant yno ar eu taith i’w meysydd gaeaf. Ac mae gwyddau talcenwyn yr Ynys Las yn treulio’r gaeaf yn Ynys-hir. Welwch chi mo’r gwyddau hyn ar unrhyw safle arall yng Nghymru, nac yn Lloegr. Gallwch chi grwydro ar hyd llwybrau a llwybrau pren i ymweld â’r saith cuddfan ar y safle unrhyw adeg o’r flwyddyn. Efallai i chi weld gwarchodfa Ynys-hir ar raglen Springwatch y BBC. Fe dreuliodd y tîm ddau wanwyn yn y warchodfa yn 2012 a 2013 yn gwylio adar y coed, adar sy’n mudo, ac adar y glannau. Mae glaswelltir y warchodfa’n lle gwych i weld cornchwiglod, pibyddion coesgoch, a rhydyddion eraill.

Nid nepell i ffwrdd, gallwch chi wylio gweilch y pysgod yn magu eu cywion, a dilyn anturiaethau’r adar arbennig hyn, yn yr Arsyllfa 360 yng Ngwarchodfa Cors Dyfi.

Is-afonydd afon Dyfi: Einion, Cletwr a Leri

Einion, Cletwr a Leri yw rhai o is-afonydd afon Dyfi. Mae’r afonydd byrion hyn yng ngogledd Ceredigion yn rhoi cipolwg perffaith ar hanes a thirwedd amrywiol Ceredigion.

Ar ei hynt tua’r môr, mae afon Einion yn tasgu dros raeadrau ar hyd dyffryn coediog Cwm Einion. Er mai afon fer yw hon, roedd yn magu digon o nerth ar ei thaith i lawr y cwm i yrru olwyn ddŵr fawr y felin yn Ffwrnais yn ôl yn y 18fed ganrif. Mae’r rhaeadr yn Ffwrnais yn ddeniadol iawn – atgof o dreftadaeth ddiwydiannol yr ardal. Mae’r safle’n rhan o warchodfa'r Ymddiriedolaeth Natur ac mae’n dangos sut mae diwydiant a byd natur yn gallu cyd-fyw’n gytûn. Mae afon Einion yn tawelu wrth iddi lifo ar draws y gorlifdir i greu rhai o gynefinoedd dŵr gwlyb gorau Ynysoedd Prydain ar gyfer adar sy’n mudo yng ngwarchodfa’r RSPB yn Ynys-hir.

Mae afon dlos Cletwr yn pasio drwy warchodfa natur Cwm Cletwr, dyffryn coediog cysgodol sy’n llawn rhedyn a chennau. Ar lethrau’r cwm uwchben pentref Tre’r ddôl, mae yna garnedd hynafol sy’n gysylltiedig â chwedl Taliesin.

Mae afon Leri hefyd yn tarddu yng nghorsydd mwsoglyd Mynyddoedd Cambria, dan gysgod Disgwylfa Fawr. Islaw argae Llyn Craig-y-pistyll, mae’r afon yn tasgu dros argae a rhaeadr cyn parhau ar ei hynt drwy ddyffrynnoedd coediog. Mae’r afon yn fwrlwm o fywyd gwyllt: bronwennod y dŵr, dyfrgwn, a llond lle o bysgod. Yn Nhal-y-bont, lle mae afon Leri’n ymuno ag afon Ceulan, roedd grym y ddwy afon gyda’i gilydd yn ddigon i weithio melinau gwlân a mwynau 'slawer dydd. 

Er eu bod mewn lleoliadau naturiol, fe gafodd tarddle ac aber afon Leri eu creu gan ddyn.  Mae rhan isaf yr afon yn llifo mewn llinell syth tu cefn i bentref y Borth tua aber afon Dyfi yn Nhraeth Maelgwyn.