Cyrraedd Ceredigion

Mae un peth yn sicr: bydd eich siwrnai i Geredigion yn bleser ac yn antur. Sut bynnag fyddwch chi’n teithio – ar droed, ar feic, ar fws, ar drên, neu mewn car – fe gewch chi wledd i’r llygaid. O’r de neu’r gogledd, gallwch ddilyn Ffordd yr Arfordir sy’n mynd o naill ben Bae Ceredigion i’r llall. O’r dwyrain, cewch groesi Mynyddoedd Cambria wrth i chi adael Ffordd Cambria a theithio tua’r gorllewin.


Teithio mewn steil ar y trên

Beth am ymlacio mewn sedd gyfforddus ar fws neu ar drên, a mwynhau’r golygfeydd godidog, heb orfod cadw llygad ar y ffordd?

Mae gwasanaeth trên bob awr ar hyd Lein Arfordir y Cambrian rhwng Aberystwyth a Llundain, Lerpwl, Manceinion a dinasoedd eraill y DU drwy orsaf Birmingham International (Maes Awyr Birmingham) a gorsaf yr Amwythig. A hithau’n un o reilffyrdd mwyaf trawiadol Prydain, mae hefyd yn cysylltu Aberystwyth â gorsafoedd i’r gogledd ar hyd Ffordd yr Arfordir bob cam i Bwllheli ym Mhenrhyn Llŷn. 

O'r de a'r gorllewin

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaethau bws sy’n rhan o rwydwaith teithio integredig Cymru a’r Gororau. Gallwch deithio o Lundain drwy Gaerdydd a Chaerfyrddin ar reilffordd y Great Western, cyn defnyddio gwasanaeth bws T1 i deithio i Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan (Llambed) ac Aberystwyth, neu ddefnyddio gwasanaeth bws lleol rhif 460 i deithio i drefi a phentrefi yn ne Ceredigion, gan gynnwys Aberteifi.

O orsaf harbwr Abergwaun (lle ceir cysylltiadau i Lundain, Bryste, Caerdydd a threfi a dinasoedd eraill y De, (yn ogystal â llongau i Rosslare yn Iwerddon), mae gwasanaeth bws T5 yn teithio tua’r gogledd ar hyd arfordir Ceredigion, gan alw yn Aberteifi, Aberaeron ac Aberystwyth. 

O'r gogledd

I deithio yma o’r Gogledd (neu o Iwerddon trwy Dun Laoghaire a Chaergybi), gallwch deithio ar drên i Fangor cyn dal gwasanaeth bws T2 i’ch cludo tua’r de i Geredigion.

From the north, or Ireland (via Dun Laoghaire ferries), travel by rail to Bangor and then transfer to the T2 bus service to travel south to Ceredigion.

Gwasanaethau bws

 Mae bysiau’n ffordd hwylus, fforddiadwy, ac ecogyfeillgar o grwydro ar hyd a lled y Canolbarth a’r Gorllewin i fwynhau harddwch naturiol yr ardal. Mae gwasanaethau bws pellter hir TrawsCymru’n ffordd gyfleus o deithio i Geredigion o Gaerdydd, Caerfyrddin, Abertawe a Hwlffordd yn y De, neu o Fangor a Wrecsam yn y Gogledd. Cewch ddefnyddio Wi-Fi am ddim ar y bws, a bob penwythnos, cewch deithio am ddim ar hyd rhwydwaith bysiau TrawsCymru i gyd.

Mae Aberystwyth a Llambed yn drefi prifysgol, ac mae Megabus yn darparu gwasanaeth bws dyddiol rhwng y trefi hyn a Chaerfyrddin, Abertawe, Caerdydd a Llundain. Mae National Express hefyd yn darparu gwasanaeth bws dyddiol o Aberystwyth drwy Birmingham i Lundain.

Mae rhwydwaith o wasanaethau bws lleol yn cysylltu prif drefi Ceredigion – Aberystwyth, Aberteifi, Aberaeron a Llambed – â llawer o’n pentrefi bach. 

Gall Traveline Cymru eich helpu i gynllunio teithiau lleol, neu gallwch ddefnyddio’r amserlenni ar wefan Cyngor Ceredigion.

Gyrru i Geredigion – siwrnai heb ei hail

Teulu o dri llwybr cenedlaethol yw Ffordd Cymru – Ffordd yr Arfordir, Ffordd Cambria, a Ffordd y Gogledd. Mae'r tair ffordd yn dangos Cymru ar ei gorau, gan roi blas ar ein harfordir, ein hardaloedd gwledig, a’n diwylliant. Wedi i chi gael gafael ar wybodaeth leol, byddwch chi’n barod i fynd ar eich antur eich hun.

Mae Ffordd yr Arfordir yn dilyn ffordd yr A487 ar hyd arfordir Bae Ceredigion, gan fynd bob cam o Aberdaron ym Mhen Llŷn, ar hyd arfordir Eryri a Cheredigion, i Dyddewi yn Sir Benfro. 

Dyw Ceredigion ddim ymhell o Ffordd Cambria, y ffordd sy’n dilyn yr A470 ar hyd asgwrn cefn Cymru o Landudno i Gaerdydd. Rhwng Ffordd yr Arfordir a Ffordd Cambria, mae ffyrdd, llwybrau mynydd, a llwybrau beicio trawiadol yn croesi Mynyddoedd Cambria. Beth am ddarllen ein canllaw i'ch helpu i drefnu'ch taith dros Fynyddoedd Cambria?

Taith fythgofiadwy i Geredigion ar droed neu ar feic

Mae cerddwyr o bob rhan o’r byd yn prysur ddarganfod Llwybr Arfordir Ceredigion. Mae’r llwybr 60 milltir o hyd (bron i 100km) yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru, y llwybr troed cyntaf yn y byd lle gallwch gerdded bob cam o'r ffordd ar hyd arfordir gwlad gyfan. Gallwch hefyd gerdded o’r arfordir i Fynyddoedd Cambria ar hyd hen lwybrau hynafol, gan gynnwys Ffordd y Sistersiaid sy’n cael ei darganfod o’r newydd gan bererinion cyfoes.

I gael mwy o wybodaeth am lwybrau cerdded lleol a dolenni eraill, ewch i’n tudalennau Cerdded.

Mae Ceredigion yn lle gwych i gerddwyr a beicwyr, gyda lonydd gwledig tawel, llwybrau di-draffig, a llwybrau beicio bendigedig ar hyd ein mynyddoedd a’n rhostiroedd. Gallwch hefyd ddefnyddio llwybrau tawel di-draffig y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol i deithio yma o bell ac agos.

Ewch i’n tudalennau Beicio i gael gwybodaeth am y ddarpariaeth leol i feicwyr.