Llwybr Arfordir Ceredigion

Mae'r trigain milltir o Lwybr Arfordir Cymru sydd yng Ngheredigion gyda amrywiaeth arbennig o dirweddau, gyda golygfeydd godidog tua'r gogledd am fynyddoedd Eryri a phenrhyn Llŷn.  Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn gyfoethog o fywyd gwyllt, nodweddion archaeolegol a daearyddol, a hanes a thraddodiadau lliwgar i'w darganfod ar hyd y daith. 


Aberteifi - Aberporth

Yn Aberteifi, mae Llwybrau Arfordir Ceredigion a Phenfro yn cwrdd. Dyma'r 'porth i Gymru' gan mai Aberteifi oedd, am ganrifoedd, porthladd mwyaf arfordir y gorllewin, a phrif dref Ceredigion. Wrth groesi'r bont ar draws y Teifi heddiw, mae'r adeiladau naill ochr iddi yn crynhoi hanes y dref: castell cerrig cyntaf tywysog dylanwadol a warysau fu unwaith yn ganolfan masnachu gyda'r byd.

Aberteifi - Aberporth


Aberporth - Llangrannog

Gyda chlogwyni uchel a thraethau cysgodol, mae’r rhan hon o Lwybr Arfordir Ceredigion wedi’i dynodi’n Arfordir Treftadaeth. Mae yno draethau da, caerau pentir, a digonedd o gyfleoedd i weld bywyd gwyllt Bae Ceredigion.

Aberporth - Llangrannog


Llangrannog - Y Cei Newydd

Mae’r rhan hon o’r arfordir wedi’i dynodi’n Arfordir Treftadaeth, a gellir dadlau mai hon yw rhan fwyaf trawiadol Llwybr Arfordir Ceredigion. Rhwng Llangrannog a'r Cei Newydd, fe welwch gaer hynafol Ynys Lochtyn a baeau bach Cwmtydu a Chwm Soden.  Ger y Cei Newydd, mae Craig yr Adar yn lle delfrydol i wylio adar a bywyd gwyllt y môr.

 

Llangrannog - Y Cei Newydd


Y Cei Newydd - Aberaeron

Mae’r llwybr rhwng Y Cei Newydd ac Aberaeron yn un o'r rhannau mwyaf poblogaidd o Lwybr Arfordir Ceredigion, ac mae’n cynnwys un o hoff lwybrau’r bardd Dylan Thomas ar hyd y traeth pan fydd y llanw ar drai. O Lanina, mae’r llwybr yn mynd yn ei flaen drwy Gei Bach a Chwm Buwch lle mae afon Drywi’n naddu patrwm diddorol yn y dirwedd cyn troi’n rhaeadr.

 

Y Cei Newydd - Aberaeron


Aberaeron - Llanrhystud

Hwn yw cymal hawsaf Llwybr Arfordir Ceredigion. Mae’n ymlwybro ar hyd clogwyni isel yr arfordir rhwng Aberaeron ac Aber-arth. O Aber-arth, mae’r llwybr yn dringo gan ddatgelu golygfeydd gwych tua’r gogledd i Aberystwyth ac Eryri.

Aberaeron - Llanrhystud


Llanrhystud - Aberystwyth

Mae’r llwybr rhwng Llanrhystud ac Aberystwyth yn dipyn o her, ond mae’n werth yr ymdrech i weld y rhan ddramatig hon o Arfordir Treftadaeth Ceredigion gan gynnwys  gwarchodfa natur Clogwyni Penderi, lle mae'r coed wedi gwyro gyda nerth gwynt y môr, ac ogof Twll Twrw ger Mynachdy'r Graig.

Llanrhystud - Aberystwyth


Aberystwyth - Ynyslas

Rhwng Aberystwyth ac Ynyslas mae'r llwybr mynd lan a lwr rhwng bryniau a phantiau, gyda golygfeydd godidog o benrhyn Llyn ac Eryri. Tra bod Llwybr Arfordir Cymru yn mynd dros Gors Fochno i groesi/r aber, mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn gorffen yn nhwyni Ynyslas ac aber y Dyfi gyferbyn ag Aberdyfi.

Aberystwyth - Ynyslas